Gair Daneg a Norwyeg ar gyfer naws o gyfeddach clyd a chyfforddus, ynghyd â theimlad o les a bodlondeb, yw hygge (/ˈhjuːɡə/ neu /ˈhuːɡə/). Fel math o ddiwylliant sydd â setiau o arferion perthnasol mae hygge yn golygu mwy neu lai yr un peth mewn Daneg a Norwyeg, ond mae'r syniad yn fwy creiddiol yn Denmarc nag yn Norwy.[1] Mae'r pwyslais ar hygge fel rhan o ddiwylliant Danaidd yn ffenomen ddiweddar, yn perthyn i'r 20g.