Hywel Bennett

Hywel Bennett
Ganwyd8 Ebrill 1944 Edit this on Wikidata
Garnant Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 2017 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodCathy McGowan Edit this on Wikidata

Actor ffilm-a-theledu Cymreig oedd Hywel Thomas Bennett[1] (8 Ebrill 194425 Gorffennaf 2017). Roedd Bennett yn enwog am ei ran yn chwarae James Shelley yn y comediau sefyllfa Shelley (1979–84) a'i ddilyniant The Return of Shelley (1988–92).

Ar ôl dod yn adnabyddus am ei ran y ffilm gomedi The Virgin Soldiers (1969), ymddangosodd Bennett mewn ffilmiau fel Loot (1970) a Percy (1971). Yn 2003, fe chwaraeodd y gangster Jack Dalton ar EastEnders.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bennett yn Garnant, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Sarah Gwen (née Lewis) a Gorden Bennett.[2] Roedd ganddo frawd, yr actor Alun Lewis, sydd yn fwyaf adnabyddus am chwarae'r cymeriad Vic Windsor yn Emmerdale. Magwyd Bennett yn Llundain o oedran cynnar, ac fe aeth i Ysgol Sunnyhill, Streatham, Ysgol Ramadeg Henry Thornton, Clapham a'r Royal Academy of Dramatic Art.

Ymddangosiad cyntaf Bennett ar ffilm oedd fel Leonardo yn Il marito è mio e l'ammazzo quando mi pare, ffilm gomedi Eidalaidd o 1966 a gyfarwyddwyd gan Pasquale Festa Campanile, lle roedd gwraig ifanc yn cynllunio'n ofalus i lofruddio ei gŵr, sydd 40 mlynedd yn hŷn na hi, i briodi bitnic ifanc.[3]

Chwaraeodd Bennett rannau bach yn Doctor Who (1965) a The Sweeney (1976). Fe serennodd yn The Virgin Soldiers (1969), addasiad ffilm Loot (1970) gan Joe Orton, a Percy (1971). Fe'i castiwyd i chwarae gyferbyn Hayley Mills mewn sawl ffilm, yn cynnwys The Family Way (1966), Twisted Nerve (1968) a Endless Night (1972).

Fe chwaraeodd prif rannau mewn nifer o ddramau teledu Dennis Potter, yn cynnwys Where the Buffalo Roam (1966), Pennies from Heaven ("Better Think Twice", 1978) lle roedd yn chwarae y pimp Tom, Karaoke (1996), a Cold Lazarus (hefyd 1996). Cymerodd y brif ran yn Shelley (1979–84) a'i ddilyniant The Return of Shelley (1988–92).

Chwaraeodd y drygionus Mr Croup yng nghyfres Neil Gaiman o Neverwhere (1996). Serennodd yng nghyfres pedwar rhan y BBC Malice Aforethought (1979) wedi seilio ar y nofel ysgrifennwyd yn y 1920au gan Francis Iles. Roedd cymeriad Bennett, Ricki Tarr, yn ganolog yng nghyfres y BBC oedd wedi ei seilio ar nofel John le Carré, Tinker, Tailor, Soldier, Spy (1979). Ymddangosodd hefyd yn Lock, Stock... (2000) fel Deep Throat. .

Yn 2003 fe ymunodd â chast yr opera sebon hirhoedlog EastEnders fel Jack Dalton, pennaeth byd trosedd oedd yn wrthwynebydd i Den Watts (wedi ei chwarae gan Leslie Grantham), cymeriad a gredwyd oedd wedi gorchymyn llofruddiaeth Watts yn 1989. Fe ymddangosodd yn y gyfres gyntaf yn Mai 2003, ond fe ddiflannodd dwy fis yn ddiweddarach pan gafodd ei gymeriad ei saethu gan Dennis Rickman (Nigel Harman), mab Den Watts. Cyn ei farwolaeth, datgelodd Dalton fod Den wedi goroesi'r saethu 15 mlynedd ynghynt, a nes ymlaen yn y flwyddyn fe ddychwelodd Den i'r gyfres.

Ymddangosodd Bennett fel cymeriad achlysurol, Peter Baxter, yn The Bill ac roedd ym mhennod cyntaf Jam & Jerusalem.

Yn 1986 ymddangosodd yn y fideo i'r gân "Loving You's a Dirty Job But Somebody's Gotta Do It" gan Bonnie Tyler a Todd Rundgren. Roedd yn meimio i lais Todd Rundgren. Mae'r gân i gael ar albwm Bonnie Secret Dreams and Forbidden Fire.

Yn 1991 chwaraeodd Dr Gareth Lewis yn y ffilm beilot Yr Heliwr (A Mind To Kill yn Saesneg) a ffilmiwyd yn y ddwy iaith.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Rhwng 1970 a 1988 roedd Bennett yn briod a Cathy McGowan, oedd yn gyflwynydd ar y sioe gerddoriaeth deledu Ready Steady Go! yng nghanol y 1960au. Mae ganddynt un ferch, Emma. Priododd Sandra Layne Fulford yn 1998. Ymddeolodd o actio yn 2007 oherwydd ei iechyd a symudodd i Deal yng Nghaint. Bu farw ar 25 Gorffennaf 2017 a gwnaed y newyddion yn gyhoeddus ar 3 Awst.[4]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]
  • Il marito è mio e l'ammazzo quando mi pare (1966) – Leonardo
  • The Family Way (1966) – Arthur Fitton
  • Twisted Nerve (1968) – Martin Durnley/Georgie
  • The Virgin Soldiers (1969) – Private Brigg
  • Loot (1970) – Dennis
  • The Buttercup Chain (1970) – France
  • Percy (1971) – Edwin Anthony
  • Endless Night (1972) – Michael Rogers
  • Alice's Adventures in Wonderland (1972) – Duckworth
  • The Love Ban (1973) – Mick Goonahan
  • Murder Elite (1984) – Jimmy Fowler
  • Witness in the War Zone (1987) – Mike Jessop
  • Deadly Advice (1994) – Doctor Crippen
  • Married 2 Malcolm (1998) – Reg
  • Misery Harbour (1999) – The Captain
  • Vatel (2000) – Colbert
  • Nasty Neighbours (2000) – The Boss
  • One for the Road (2003) – Richard Stevens

Teledu

[golygu | golygu cod]
  • Doctor Who (1965 pennod The Chase) – Rynian
  • Redcap (1965) – Brown
  • Theatre 625 (1965–66) – Beliayev Lipstrob
  • The Idiot (1966) – Hypolite
  • The Sweeney (1976) – Steven Castle
  • Malice Aforethought (1979) – Dr Edmund Bickleigh
  • Tinker Tailor Soldier Spy (1979) – Ricki Tarr
  • Shelley (1979 to 1992) – James Shelley
  • Artemis 81 (1981) – Gideon Harlax
  • The Consultant (1984) – Chris Webb
  • A Mind to Kill (1991) – Dr Gareth Lewis
  • The Other Side of Paradise (1992) – Purvis
  • Karaoke (1996) – Arthur 'Pig' Mailion
  • Neverwhere (1996) – Mr Croup
  • The Bill (2000 Episode "Catch a Falling Star") – Pete Tyler
  • EastEnders (2003) – Jack Dalton

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hywel Bennett ar wefan yr IMDb
  2. Hywel Bennett Biography (1944-)
  3. "Il MARITO È MIO E L'AMMAZZO QUANDO MI PARE (1967)". BFI. 2 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 29 Chwefror 2016.
  4. Hywel Bennett obituary: Beloved actor who rose to fame as a sitcom star (en) , independent.co.uk, 3 Awst 2017.