Hélène Grimaud | |
---|---|
Ganwyd | 7 Tachwedd 1969 Aix-en-Provence |
Label recordio | Deutsche Grammophon, Erato Records, Teldec |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pianydd, cerddor, llenor |
Gwobr/au | Marchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Gwobr Steiger, Chevalier de la Légion d'Honneur, chevalier des Arts et des Lettres, Officier des Arts et des Lettres, Echo Klassik Award - Instrumentalist of the Year, Commandeur des Arts et des Lettres |
Gwefan | http://www.helenegrimaud.com/ |
Pianydd clasurol o Ffrainc yw Hélène Grimaud (ganwyd 7 Tachwedd 1969) sydd hefyd yn awdur. Sefydlodd Ganolfan Gadwraeth y Blaidd yn Ne Salem, Efrog Newydd, gyda'i phartner, y ffotograffyd J. Henry Fair.[1][2][3]
Fe'i ganed yn Aix-en-Provence, Ffrainc ar 7 Tachwedd 1969. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cerdd a Dawns Cenedlaethol, Conservatoire de Paris a Phrifysgol Rhanbarthol de Marseille.[4][5][6][7]
Disgrifiodd genhedligrwydd ei theulu mewn cyfweliad â New Rock Times gyda John Rockwell: "Daeth fy nhad o gefndir Iddewon Sephardig yn Affrica, ac roedd cyndeidiau fy mam yn Berberiaid Iddewig o Corsica." Mabwysiadwyd ei thad fel plentyn gan deulu Ffrengig a daeth yn diwtor prifysgol yn dysgu ieithoedd.[8][9]
Mae hi wedi dweud ei bod yn aml yn “gynhyrfus”, pan oedd yn blentyn. Darganfu'r piano pan oedd yn saith oed. Ym 1982, fe'i derbyniwyd i'r Conservatoire de Paris, lle bu'n astudio gyda Jacques Rouvier.
Yn 1987, lansiodd ei gyrfa broffesiynol gyda datganiad unigol ym Mharis a pherfformiad gyda'r Orchestre de Paris dan arweinyddiaeth Daniel Barenboim. Perfformiodd dro ar ôl tro yn Proms y BBC, gan gynnwys 'Noson Ola'r Proms' ym Medi 2008, gan chwarae y Choral Fantasia gan Beethoven ar y piano.[10]
[[Categori:Llenorion