Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 2,508 |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | Aalborg, Fredrikstad, Bwrdeistref Karlskoga, Riihimäki, Qeqertarsuaq, Fuglafjørður |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Diamond Circle |
Sir | Norðurþing |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 270 km² |
Cyfesurynnau | 66.0439°N 17.3417°W |
Cod post | 640, 645 |
Mae Húsavík yn dref ym mwrdeisdref Norðurþing ar arfordir gogleddol Gwlad yr Iâ ar lannau bae Skjálfandi. Ei phoblogaeth yw 2,182. Ei phrif nodwedd pensaernïol yw eglwys bren Húsavíkurkirkja, a adeiladwyd yn 1907. Gweinir Húsavík gan Faes Awyr Húsavík.
Cyfunwyd yr hen fwrdeistref Húsavík (Isl Húsavíkurbær) ym mis Mehefin 2006 gyda chymunedau gwledig Keldunes (Kelduneshreppur), Öxarfjörður (Öxarfjarðarhreppur) a Raufarhöfn (Raufarhafnarhreppur) i greu fwrdeistref newydd, Norðurþing.
Daw incwm u dref o dwristiaeth a physgota yn ogystal ag elfen o fanwerthu a diwydiant bychan. Hyd yn ddiweddar, roedd Húsavík yn allforio silica a dynnwyd o lyn Mývatn ger llaw.
Poblogaeth ar 1 Rhagfyr 1997: | 2.599 (tiriogaeth 2002) |
Poblogaeth ar 1 Rhagfyr 2003: | 2.453 |
Poblogaeth ar 1 Rhagfyr 2004: | 2.426 |
Poblogaeth ar 1 Rhagfyr 2005: | 2.373 |
Newid Poblogaeth 1997–2005: | –9 % |
Yn ôl y Landnámabók ("Llyfr y Gwladychu"), Húsavík oedd y lle cyntaf yng Ngwlad yr Iâ i'w wladychu gan y Northmyn. Arhosodd y Swediad, Garðar Svavarsson yno am un gaeaf oddeutu'r flwyddyn 870. Pan adawodd yng ngwanwyn 870, wedi'r arhosiad dros y gaeaf, fe adawodd ddyn ar ei ôl, o'r enw Nattfari a dau gaethwas, dyn a dynes, ac fe sefydlon nhw fferm yno.[1] Ystyr Húsavík yw "bae y tai", gan gyfeirio, mae'n siwr, at gartrefi Garðar, a fyddai, o bosib, wedi bod yr unig dai yn yr holl ynys.
Enwodd Garðar Svavarsson y tir newydd yma (Gwlad yr Iâ) yn Garðarsholmur. Mae cofeb yn Ysgol Húsavík yn ei goffáu.
Mae Húsavík wedi dod yn ganolfan i wylio morfilod gan fod gwahanol fathau o forfilod yn ymweld â'r bae. Lleolir Amgueddfa Morfilod Húsavíkis yng nghannol y dref ger yr harbwr.[2]
Cer hefyd amgueddfa ddiwylliant a bioleg yn y dref. Gwelir yno arth wen wedi ei stwffio (a ymwelodd â Grimsey yn 1969) a hen gychod.
Mae Húsavík hefyd yn gartref i'r Amgueddfa Fforiadu (exploration museum). Ceir cofeb i'r gofodwyr yno sy'n talu teyrnged o gofodwyr yr Apollo bu'n hyfforddi yn ardal Húsavík yn ystod yr 1960au.[3]
Mae aral Mývatn, gyda'i daeareg a bywyd gwyllt ddiddorol, ger llaw. Ac mae Parc Cenedlaethol Jökulsárgljúfur gydag Ásbyrgi, y canion pendol a rhaeadrau Dettifoss, Hafragilsfoss a Selfoss heb fod yn bell o'r dref.
Íþróttafélagið Völsungur (ÍF Völsungur) yw'r tîm pêl-droed lleol. Buont yn cystadlu yn y gynghrair uchaf yn ystod tymor 1988.[4]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)