Rhaglen newyddion genedlaethol Saesneg ar gyfer ITV Cymru Wales yw Wales at Six.
Darlledir y rhaglen bob Llun i Wener o 6pm - 6.30pm, gyda bwletinau byr drwy'r dydd, o Good Morning Britain i'r hwyrnos (10.30pm o nos Lun i nos Wener) a dwy fwletin byr yn ystod y penwythnos. Mae'r bwletinau byr yn cael eu darlledu o dan yr enw ITV News Cymru Wales.
Mae'r gwasanaeth newyddion sy'n cael ei ddarleddu o brif stiwdios ITV Cymru Wales yn Sgwâr y Cynulliad, Bae Caerdydd ond ceir hefyd ohebwyr a gweithredyddion camera wedi'u lleoli yn ystafelloedd newyddion y Gogledd ym Mae Colwyn ac Uned Wleidyddol y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Veir gohebwyr rhanbarthol hefyd yn Abertawe, Merthyr Tudful a Gorllewin Cymru.
Uwch gynhyrchwyr y rhaglen yw Zoe Thomas (pennaeth newyddion a rhaglenni ITV Cymru Wales) a Jonathan Hill (cyflwynydd Wales at Six a golygydd rhaglenni ITV Cymru Wales ar gyfer rhwydwaith ITV).