Mae I Cain't Say No yn gân o'r sioe gerdd Oklahoma! ar ffilm o'r un enw a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Richard Rodgers a'r libretydd Oscar Hammerstein II.[1]
Yn y gân, mae Ado Annie Carnes yn disgrifio ei deffroad rhywiol (er ei fod yn nhermau hynod mwytheiriol) a'r trafferthion a ddaw yn ei sgil. Mae gan, Ado Annie, un o'r ddwy brif gymeriad benywaidd, dau gariadfab, y gwerthwr teithiol o Bersia, Ali Hakim a'r cowboi Will Parker, sydd newydd ddychwelyd o daith i Ddinas Kansas. Yn y gan mae Ado Annie yn disgrifio i'w ffrind, Laurey, y sylw y mae hi wedi derbyn gan ddynion "ers iddi lenwi" ac yn egluro ei anallu i ddweud "na" i'w diddordebau a sylwadau cariadus.
Geiriau enghreifftiol:
Y gân All Er Nuthin', tua diwedd y sioe pan mae Will yn mynnu addewid o ffyddlondeb gan Annie, ac yn addo bod yn ffyddlon iddi hi.
Fideo YouTube o Celeste Holm yn canu I Cain't Say No