Iago ab Idwal

Iago ab Idwal
Ganwyd908 Edit this on Wikidata
Bu farw979 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Blodeuodd942 Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata
TadIdwal Foel Edit this on Wikidata
MamAnhysbys Edit this on Wikidata
PlantCustennin ab Iago Edit this on Wikidata

Iago ab Idwal (teyrnasodd 950 - 979), Brenin Gwynedd ac efallai Powys.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Roedd Iago yn fab i Idwal Foel, ac ar farwolaeth ei dad mewn brwydr yn 942 gellid disgwyl y byddai wedi etifeddu teyrnas Gwynedd gyda'i frawd Ieuaf ab Idwal. Fodd bynnag achubodd Hywel Dda Brenin Deheubarth y cyfle i ymosod ar Wynedd a gyrru'r tywysogion ieuanc ar ffo.[1]

Ar farwolaeth Hywel yn 950 llwyddodd Iago ac Ieuaf i ennill gorsedd Gwynedd, gan yrru meibion Hywel yn ôl i Ddeheubarth. Parhaodd yr ymladd rhwng meibion Idwal a meibion Hywel, gyda Iago ac Ieuaf yn ymgyrchu cyn belled a Dyfed yn 952 a meibion Hywel yn cyrchu hyd at Ddyffryn Conwy yn 954 cyn cael eu gorchfygu mewn brwydr ger Llanrwst a'u gorfodi i ffoi yn ôl i Geredigion.[2]

Bu cweryl rhwng meibion Idwal, a charcharwyd Ieuaf gan Iago yn 969. Er iddo golli brwydr yn 974, teyrnasodd Iago ar Wynedd hyd 979 pan gymerwyd yntau yn ei dro yn garcharor gan fab Ieuaf, Hywel ab Ieuaf, a ddaeth yn frenin yn ei le. Ymddengys nad oes cofnod o dynged Iago.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. John Edward Lloyd (1911). A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
  2. 2.0 2.1 John Edward Lloyd (1911). A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
Rhagflaenydd:
Hywel Dda
Tywysog Gwynedd
950979
Olynydd:
Hywel ab Ieuaf