Enghraifft o'r canlynol | stylistic device |
---|---|
Math | iaith |
Iaith macaronig yw unrhyw fynegiant sy'n defnyddio cymysgedd o ieithoedd,[1] yn enwedig geiriau dwyieithog neu sefyllfaoedd lle mae'r ieithoedd yn cael eu defnyddio fel arall yn yr un cyd-destun (yn hytrach na bod segmentau arwahanol o destun mewn ieithoedd gwahanol yn unig). Mae geiriau hybrid i bob pwrpas yn "facaronig yn fewnol". Mewn iaith lafar, mae newid côd yn defnyddio mwy nag un iaith neu dafodiaith o fewn yr un sgwrs.[2]
Ceir enghreifftiau o iaith macaronig yn y Gymraeg ers canrifoedd ac enghreifftiau lu mewn llenyddiaeth, dramâu, canu gwerin a chanu cyfoes Cymraeg o iaith macaronig. Gellir trafod pryd bod iaith macaronig yn Gymraeg yn llifo i'r hyn a elwir yn Wenglish neu "Cymraeg sathredig" a dirywiad iaith.
Daw'r gair "macaronig" o'r macaronicus Lladin Newydd, sy'n dod o'r maccarone Eidalaidd, neu "twmplen", sy'n cael ei ystyried yn fwyd gwerinol bras. Mae'n ddirmygus ar y cyfan ac fe'i defnyddir pan fydd gan gymysgu ieithoedd fwriad neu effaith ddoniol neu ddychanol ond fe'i cymhwysir weithiau at lenyddiaeth cymysgiaith fwy difrifol.
Mae Lladin Macaronic yn arbennig yn jargon cymysg sy'n cynnwys geiriau brodorol sy'n rhoi terfyniadau Lladin neu eiriau Lladin wedi'u cymysgu â'r frodorol mewn pastiche.
Dichon bod elfen o iaith macaronig wedi bod yn rhan o unrhyw broses mewn shifft ieithyddol a dirywiad iaith. Gellir ei chofnodi yn Ewrop drwy sylwi ar y defnydd o ieithoedd frodorol yn cropian fewn i destunau yn yr iaith Ladin, sef prif iaith ysgrifenedig yr Oesoedd Canol. Gwelir hyn mewn ieithoedd a ddatblygodd o'r iaith Ladin, lle'r oedd yr awdur, o bosib heb fod yn ymwybodol neu'n hyddysg yn y gwahaniaeth rhwng Lladin a'i iaith Ladin newydd (yr hyn a ddaeth yn Eidaleg, Ffrangeg ayyb) ac ieithoedd a ddatblygodd yn annibynnol o'r Lladin e.e. Cymraeg, Iseldireg, Saesneg.
Mae’n debyg bod testunau a oedd yn cymysgu Lladin ac iaith frodorol yn codi ledled Ewrop ar ddiwedd yr Oesoedd Canol — cyfnod pan oedd Lladin yn dal i fod yn iaith waith ysgolheigion, clerigwyr a myfyrwyr prifysgol, ond yn colli tir i frodorol ymhlith beirdd, gweinidogion a storïwyr.
Ceir enghraifft gynnar o 1130, yn llyfr Efengyl Abaty Munsterbilzen. Mae'r frawddeg ganlynol yn cymysgu Hen Iseldireg hwyr a Lladin:
A Gyfieithu: "Yr oedd y gymydogaeth hon yn fonheddig a phur, ac yn gwbl lawn o bob rhinwedd".
Mae'r Carmina Burana (a gasglwyd c.1230) yn cynnwys nifer o gerddi sy'n cymysgu Lladin ag Almaeneg neu Ffrangeg Canoloesol. Enghraifft adnabyddus arall yw pennill cyntaf y garol enwog In Dulci Jubilo, yr oedd ei fersiwn wreiddiol (a ysgrifennwyd tua 1328) â Lladin wedi'i chymysgu ag Almaeneg, gydag awgrym o Roeg. Er bod gan rai o'r gweithiau cynnar hynny fwriad doniol clir, mae llawer yn defnyddio'r gymysgedd iaith i greu effaith delynegol.
Ceir enghreifftiau mynych o iaith macaronig mewn cyd-destun Gymraeg fel arfer gyda Saesneg yn iaith arall. Datblygodd caneuon macaronig yn ystod y chwyldro diwydiannol pan unodd Cymry Cymraeg â gweithwyr mudol i ffurfio caneuon dwyieithog.[3]
Gwelir elfennau o eiriau macaronig mewn canu gwerin Cymraeg o'r 19g.
- Ye lads all thro' the country,
- Gwrandewch ar hyn o stori. x2
- You better go dros ben y graig x2
- Then go with gwraig i'r gwely.
- My wife did send me waerad
- Down to the River Deifad.x2
- I told her I wouldn't go, x2
- She knock me with the lletwad.
- My wife did send me i weithio
- Without a bit of bacco; x2
- She got plenty in the house x2
- Ni chawn i ounce ohono.
- My wife did go to dinner,
- Cig moch a phalfais wether; x2 [ysgwydd oen]
- She eat the cig, give me the cawl, x2
- A dyna' i chi ddiawl o bardner.
- Ar y ffordd wrth fynd i Rymni
- Very-well-a-done, Jim Cro,
- Cwrddyd wnes â dyn a mwnci,
- Very-well-a-done, Jim Cro,
- Yn dod adre yn lled anhwylus,
- Very-well-a-done, Jim Cro,
- Wedi wado naw o Badis,
- Victoria, Victoria,
- Very-well-a-done, Jim Cro,
Ceir enghreifftiau lu o ganeuon gyda geiriau macaronig mewn canu Roc Cymraeg a'r Sîn Roc Gymraeg. Mae'r defnydd o'r Saesneg mewn caneuon Cymraeg yn adlewyrchiad nid o ddiffyg rhuglder siaradwyr Cymraeg yn y Saesneg, sef, efallai'r rheswm dros ganeuon macaronig yn 19g, ond yn hytrach, efallai, bwriad i gyrraedd cynulleidfa nad sy'n rhugl yn y Gymraeg (yn hytrach nag nid yn rhugl yn y Saesneg). Efallai, hefyd, bod elfen o wrthryfela yn erbyn yr hyn a dybir yn rheolau iaith.
Un enghraifft ymysg llawer o ganeuon macaronig yw caneuon yr artist Sage Todz. Mae ei gân Rownd a Rownd[7] yn ddwyieithog a chyfyd y cwestiwn pryd mae cân, neu darn o waith, yn ddwyieithog yn hytrach na macaronig?
Pennill gyntaf Rownd a Rownd
- Ma'n dod rhy hawdd, dwi'm yn son am TGAU, pan dwi'n :deud bo fi'n ace’ior prawf
- Cadw bol and dwylo’n llawn
- Nofio drwy’r casineb heb y poen dwi'n anghyflawn
- Eisau’r cerddi chwyddo’n fawr, gwylia fi fel rownd a rownd
- Life goes round and round
- Some of the biggest talents have grown up in the smallest towns
- You're only finding diamonds, when your face is in the ground
- Grimey scenes means grimey sounds
- Angen pres sy’n dod cyfiawn
- Angen pres sy’n dod cyfiawn
|title=
at position 9 (help)