Ian Grist | |
---|---|
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1938 Southampton |
Bu farw | 2 Ionawr 2002 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Roedd Ian Grist (5 Rhagfyr 1938 - 2 Ionawr 2002) yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaethau Gogledd Caerdydd a Chanol Caerdydd [1]
Ganwyd Grist yn Southampton yn fab i berchennog modurdy. Cafodd ei addysg yn ysgol baratoi Hildersham House yn Broadstairs, Ysgol Repton yn Swydd Derby, a Choleg yr Iesu, Rhydychen.
Wedi gorffen ei addysg aeth i weithio fel gwas sifil yn y Gwasanaeth Trefedigaethol gan wasanaethu yn Ne Camerŵn a Nigeria.
Roedd Grist yn honni ei fod yn chwarter Cymro, a bod ei dri chwarter arall yn Albanaidd, Gwyddelig, Seisnig ac Iddewig. Ei hoffter am ei chwarter Cymreig, meddai, oedd yn gyfrifol iddo ymgeisio - a chael ei gyflogi - fel Swyddog Gwybodaeth Plaid Geidwadol Cymru ym 1963, swydd y bu ynddi hyd ei ethol yn Aelod Seneddol ym 1974.
Safodd etholiad am y tro cyntaf yn Aberafan ym 1970, etholaeth gwbl anobeithiol i'r Ceidwadwyr ar y pryd, ond daeth yn ail gan ennill 22% dechau o'r bleidlais; ond yn yhydig o'i gymharu â phleidlais John Morris (Llafur), y buddugwr a gafodd 67% o'r bleidlais!
Bu adrefnu ar seddau seneddol Caerdydd cyn etholiad Chwefror 1974 yn sgil hynny penderfynodd deiliad Ceidwadol sedd Gogledd Caerdydd Michael Roberts sefyll yn sedd newydd Gogledd Orllewin Caerdydd a dewiswyd Grist fel ymgeisydd y blaid yng ngwaddol Gogledd Caerdydd, sedd hynod ymylol yn ôl yr ystadegau, ond fe lwyddodd Grist i'w gadw i'r achos Torïaidd a bu'n cynrychioli'r sedd yn San Steffan hyd ad-drefniad arall ym 1983.
Wedi ad-drefniad 1983 ymgeisiodd Grist am sedd Canol Caerdydd a bu'n cynrychioli'r sedd honno hyd 1992
Penodwyd Grist yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Ysgrifennydd Gwladol Cymru Nicholas Edwards ar ôl buddugoliaeth Seneddol y Ceidwadwyr ym 1979, ond fe ymddiswyddodd cyn pen dwy flynedd oherwydd ei wrthwynebiad i dreth y pen a phreifateiddio'r gwasanaeth dŵr; er gwaethaf hynny fe'i ail benodwyd gan Thatcher i reng flaen Ceidwadaeth Gymreig fel is-ysgrifennydd Cymru o 1987 i 1990
Yn ystod trafferthion mewnol y Ceidwadwyr roedd Grist yn gefnogol i'r Undeb Ewropeaidd a chefnogodd ymgais Michael Heseltine i arwain ei blaid.
Collodd ei sedd i'r Blaid Lafur yn etholiad 1992, wedi hynny bu'n Gadeirydd Awdurdod Iechyd De Morgannwg
Bu farw o strôc ar Ionawr 2il 2002 gan adael gweddw Wendy a dau fab, Julian a Toby.