Ian McCaskill

Ian McCaskill
Ganwyd28 Gorffennaf 1938 Edit this on Wikidata
Glasgow Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
Galwedigaethmeteorolegydd Edit this on Wikidata

Dyn tywydd gyda'r BBC oedd Ian McCaskill (ganwyd John Robertson McCaskill[1]) (28 Gorffennaf 193810 Rhagfyr 2016).[2]

Ymunodd McCaskill â'r Awyrlu Brenhinol ym 1959 fel rhan o'i Wasanaeth Cenedlaethol a daeth yn feteorolegydd-awyrennwr, yn gyntaf yn yr Alban ac yna yn Cyprus.[3] Dywedodd unwaith yn gellweirus, pan ymunodd â'r RAF cafodd ddewis rhwng Arlwyo a Meteoroleg, nid oedd yn gwybod beth oedd meteoroleg ond ei fod yn gwybod na allai goginio. Gadawodd yr RAF yn 1961 ac ymunodd â'r Swyddfa Dywydd, yn gweithio yn Prestwick Airport, ym Malta ac ym Manceinion.

Yn 1978, cychwynnodd McCaskill weithio yng Nghanolfan Dywydd y BBC, a cyflwynodd rhagolygon y tywydd ar gyfer y BBC, ar y ddau teledu a radio. Ymddeolodd ar 31 Gorffennaf 1998.[3]

Cafodd ei waith fel cyflwynydd tywydd ei ddychanu gan y sioe gomedi Spitting Image,[3] a gan y dynwaredwr Rory Bremner, ymhlith eraill. Roedd yn un o'r dynion tywydd ar y gân nofelti "John Kettley is a Weatherman", ac ar un adeg fe oedd y cyflwynydd tywydd a ddynwaredwyd fwyaf aml yng ngwledydd Prydain.[3]

Bu McCaskill yn gweithio fel siaradwr ysgogiadol, ac fe ymddangosodd ar raglenni teledu'r BBC, MasterChef ac ar Have I Got News for You?, yn ogystal ac ar nifer o hysbysebion teledu. Cymerodd ran yng nghyfres gyntaf Celebrity Fit Club yn 2002.

Yn 2006, ysgrifennodd y llyfr Frozen in Time, am un o aeafau gwaethaf Prydain erioed, ar y cyd gyda Paul Hudson.[4] [5]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Aeth McCaskill i Ysgol Queen's Park (ger Queen's Park F. C.) yn Glasgow, ac aeth i astudio ym Mhrifysgol Glasgow.

Roedd McCaskill yn byw ger Beaconsfield yn swydd Buckingham. Roedd ganddo ddwy ferch gyda'i wraig gyntaf Lesley Charlesworth, y bu'n briod â hi o 1959 hyd ei marwolaeth o ganser y fron yn 1992. Yn 1998, priododd Pat Cromack, gan ddod yn llys-dad i'w ddau mab.

Roedd McCaskill yn gymrawd y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol. Ym mis Mai 2000, agorodd rhan gyntaf Parc Arfordirol Lower Leas yn Folkestone, oedd yn 11 hectar o faint a gostiodd y £1.2 miliwn.[6]

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Cafodd McCaskill ddiagnosis o ddementia yn 2011. Ar 12 Rhagfyr 2016 cyhoeddodd ei ferch Kirsty ei fod wedi marw dau ddiwrnod yn flaenorol.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Ian McCaskill obituary (en) , The Guardian, 12 Rhagfyr 2016.
  2. Simpson, M. J. (2005-06-01). Hitchhiker: A Biography Of Douglas Adams. Justin, Charles & Co. tt. 272–. ISBN 9781932112351. Cyrchwyd 2013-03-31.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) BBC - Weather - Ian McCaskill. BBC (26 Mawrth 2010). Adalwyd ar 11 Mai 2013.
  4. The Scarborough News.
  5. McCaskill, Ian; Hudson, Paul (2006-10-27). Frozen in Time: The Worst Winters in History. Somerset: Great Northern Books Ltd. ISBN 9781905080090. Cyrchwyd 2014-01-10.
  6. Taylor, Alan F. (2002). Folkestone Past and Present. Somerset: Breedon Books. tt. 22–24. ISBN 1859832962.