Enghraifft o: | agwedd o hanes ![]() |
---|---|
Math | Hanes Cymru ![]() |
Mae hanes Iddewon ac Iddewiaeth yng Nghymru yn cychwyn yn ail hanner y 13g. Ond yn 1290 cyhoeddodd Edward I, brenin Lloegr, ddatganiad yn gorfodi'r Iddewon i adael teyrnas Lloegr. Wedi hynny, ac eithrio un cyfeiriad o'r 14g, mae'n ymddangos na fu Iddewon yng Nghymru hyd at y 18g. Dim ond yn y 19g y gellir sôn am gymunedau sylweddol o Iddewon yng Nghymru. Erbyn heddiw ceir cymunedau neu synagogau mewn 27 o drefi, gyda'r mwyafrif ohonynt yn y de-ddwyrain.
Mae'r Iddewon yng Nghymru yn rhan o diaspora Iddewig fyd-eang a elwir yn Hebraeg, y "Galut". Ceir cofnodion am Iddewon yng Nghaerllion, Cas-gwent a'r Fenni yn y 1270au a'r 1280au. Er i Edward I wahardd Iddewon o Loegr yn 1290, ceir cyfeiriad eithriadol at Iddew dienw yn byw yng nghwmwd Maenor Deilo yn 1386/7.[1]
Wedi hynny, ceir y dystiolaeth gynharaf am Iddewiaeth mewn cofnod am gymuned Iddewig fechan yn Abertawe tua 1730. Yn y ganrif olynol ffurfiwyd cymunedau Iddewig mewn rhannau eraill o dde Cymru, e.e. Caerdydd, Merthyr Tudful, Pontypridd a Tredegar."[2]
Gyda thwf cyffredinol mewnfudo Iddewon i wledydd Prydain yn y 19g, sefydlwyd cymunedau Iddewig mewn sawl rhan o Gymru. Atgyfnerthwyd cymunedau oedd yn bodoli eisoes a sefydlwyd rhai newydd yn yr ardaloedd diwydiannol yn bennaf. Roedd hyn yn rhan o batrwm o bobl yn dod i mewn i Gymru o wledydd fel Iwerddon, Lloegr a'r Eidal i weithio. Erbyn diwedd y ganrif roedd cymunedau bychain o Iddewon, masnachwyr a pherchnogion siopau gan amlaf, i'w cael yn y rhan fwyaf o gymoedd y De.[3]
Fel rheol, dangoswyd lefel cymeradwy o oddefgarwch tuag at y cymunedau Iddewig newydd hynny. Ond ceir un eithriad. Yn ardal Tredegar a threfi eraill yn y cylch, dangosodd gwrth-Semitiaeth ei ben ar 19 Awst 1911, pan ymosodwyd ar siopau Iddewig gan dyrfaoedd o weithwyr (tua 200 ohonyn nhw), rhai ohonynt yn canu emynau Cristnogol, gan wneud rhwng £12,000 a £16,000 o ddifrod. Torrwyd ffenestri siopai Iddewig a dwyn ohonyn nhw, gyda'r heddlu'n sefyll yn ôl yn ddiymadferth. Dyddiau'n ddiweddarach roedd y trais wedi ymledu i Gwm Rhymni a Glyn Ebwy, Brynmawr, Bargoed a Senghennydd. Nid oedd sôn am Iddewon yn y Cymoedd wedi hyn.[4][5]
Erbyn heddiw ceir cymunedau neu gynulleidfaoedd Iddewig yn Abertawe, Caerdydd, Llandudno, a'r Trallwng.[6] Roedd cymunedau Iddewig yn Aberdâr, Abertyleri, Bae Colwyn, Bangor, Bargoed, Brynmawr, Castell-nedd, Glyn Ebwy, Llanelli, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Penrhiwcaibr, Pont-y-pŵl, Pontypridd, Porthcawl, Port Talbot, Rhydaman, Tonypandy, Trecelyn, Tredegar, Wrecsam, Y Barri, Y Rhyl, ac Ystalyfera, ond nid ydynt yn weithredol erbyn hyn (oherwydd caefa, dymchwel ayyb).[6] Gwelir mai dim ond un gymuned sydd i'w cael rhwng arfordir y gogledd a de-ddwyrain Cymru. Un o'r prif synagogau yw Synagog Unedig Caerdydd. Bellach, ond tri synagog sydd ar agor yng Ngymru, dau yng Nghaerdydd (un uniongred ac un ryddfrydig) ac un yn Abertawe, er bod adeilad yr un yn Abertawe wedi ei werthu a'r gwasanaethau mewn adeilad arall.[7]
Pobl o Gymru sy'n Iddewon neu o dras Iddewig: