Iechyd Cyhoeddus Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mathsefydliad meddygol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Hydref 2009 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGIG Cymru Edit this on Wikidata
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.47695°N 3.166712°W Edit this on Wikidata
Cod postCF11 9LJ Edit this on Wikidata
Map

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (neu ICC; Saesneg: Public Health Wales) yn un o'r 11 sefydliad sy'n ffurfio GIG Cymru (neu "NHS Cymru" ar lafar). Mae'n un o dair ymddiriedolaeth hefyd, a sefydlwyd ar 1 Hydref 2009 fel rhan o ailstrwythuro'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Y ddwy ymddiriedolaeth arall yw: Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.[1]

Prif nod ICC yw amddiffyn a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Mae eu strategaeth hirdymor yn cwmpasu'r cyfnod 2018-30. Ynddi, gwelir saith blaenoriaeth strategol, sy'n cysylltu â'i gilydd er mwyn cyflawni prif bwrpas ICC, sef "Gweithio i Wireddu Dyfodol Iachach i Gymru":

  1. Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd
  2. Gwella llesiant meddyliol a chydnerthedd
  3. Hyrwyddo ymddygiad iach
  4. Sicrhau dyfodol iach ar gyfer y genhedlaeth newydd
  5. Diogelu'r cyhoedd rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol i iechyd
  6. Cefnogi gwaith i ddatblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar
  7. Meithrin a defnyddio gwybodaeth a sgiliau i wella iechyd a llesiant ledled Cymru

Strategaeth

[golygu | golygu cod]

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fwrdd Rheoli, sy'n gyfrifol am gyfeiriad strategol, fframwaith llywodraethu, diwylliant a datblygiad sefydliadol a chysylltiadau â rhanddeiliaid. Mae'n cynnwys Cadeirydd, chwe Chyfarwyddwr Anweithredol a phum Cyfarwyddwr Gweithredol, dan arweiniad Prif Weithredwr.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan GIG Cymru; asdalwyd 20 Ebrill 2020.


Dolen allanol

[golygu | golygu cod]