Y Gymraeg a'r Saesneg yw dwy brif iaith Cymru: Cymraeg yw iaith frodorol y wlad, ac fe'i siaredir gan ryw 19% o'r boblogaeth, ond Saesneg yw iaith y mwyafrif o'r boblogaeth. Mae bron 100% o'r rhai sy'n rhugl yn y Gymraeg yn medru'r Saesneg hefyd. Wenglish yw'r dafodiaith Saesneg a siaredir yng Nghymru.
Mae'r tabl isod yn dangos data Cyfrifiad 2001 ar gyfer gwybodaeth o'r Gymraeg yng Nghymru. Mae'r rhif yn y golofn "Pob person 3 oed a throsodd" yn dynodi holl boblogaeth ardal y rhes honno oedd 3 mlwydd oed a throsodd amser y cyfrifiad; mae'r rhifau yn y colofnau eraill yn dynodi'r canran o'r boblogaeth a nododd dewis y golofn honno.[1]
Ardal | Pob person 3 oed a throsodd | Yn deall Cymraeg llafar yn unig | Yn siarad Cymraeg ond ddim yn ei darllen na’i hysgrifennu | Yn siarad a darllen Cymraeg ond ddim yn ei hysgrifennu | Yn siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg | Cyfuniadau eraill o sgiliau | Dim gwybodaeth am Gymraeg |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Cymru | 2,805,701 | 4.93 | 2.83 | 1.37 | 16.32 | 2.98 | 71.57 |
Ynys Môn | 64,679 | 8.73 | 6.39 | 2.94 | 50.51 | 1.82 | 29.60 |
Gwynedd | 112,800 | 5.91 | 5.75 | 2.31 | 60.63 | 1.50 | 23.89 |
Conwy | 106,316 | 7.84 | 4.03 | 1.94 | 23.23 | 2.63 | 60.33 |
Sir Ddinbych | 90,085 | 7.05 | 3.66 | 1.74 | 20.73 | 2.86 | 63.96 |
Sir y Fflint | 143,382 | 4.39 | 2.13 | 1.06 | 10.92 | 2.89 | 78.62 |
Wrecsam | 124,024 | 5.30 | 2.36 | 1.17 1 | 0.90 | 3.17 | 77.10 |
Powys | 122,473 | 6.07 | 3.19 | 1.67 | 15.97 | 3.18 | 69.91 |
Ceredigion | 72,884 | 7.15 | 4.99 | 2.73 | 44.11 | 2.27 | 38.76 |
Sir Benfro | 110,182 | 5.43 | 3.51 | 1.64 | 16.35 | 2.43 | 70.65 |
Sir Gaerfyrddin | 167,373 | 10.45 | 7.22 | 3.89 | 38.96 | 3.07 | 36.41 |
Sir Abertawe | 216,226 | 5.99 | 2.47 | 1.37 | 9.38 | 3.26 | 77.53 |
Castell-nedd Port Talbot | 130,305 | 6.52 | 3.26 | 1.69 | 12.83 | 4.51 | 71.18 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 124,284 | 4.28 | 1.61 | 0.88 | 8.09 | 5.06 | 80.08 |
Bro Morgannwg | 115,116 | 2.92 | 1.57 | 0.69 | 8.81 | 2.92 | 83.10 |
Caerdydd | 294,208 | 2.93 | 1.40 | 0.71 | 8.75 | 2.52 | 83.69 |
Rhondda Cynon Taf | 223,924 | 4.26 | 1.66 | 0.83 | 9.79 | 4.55 | 78.92 |
Merthyr Tudful | 54,115 | 4.03 | 1.71 | 0.97 | 7.35 | 3.68 | 82.26 |
Caerffili | 163,297 | 2.83 | 1.72 | 0.67 | 8.52 | 2.93 | 83.33 |
Blaenau Gwent | 67,795 | 2.19 | 1.90 | 0.59 | 6.56 | 2.07 | 86.69 |
Tor-faen | 88,062 | 1.93 | 1.93 | 0.69 | 8.08 | 1.84 | 85.53 |
Sir Fynwy | 82,351 | 2.05 | 1.60 | 0.60 | 6.82 | 1.79 | 87.14 |
Casnewydd | 131,820 | 1.88 | 1.77 | 0.61 | 7.18 | 1.92 | 86.63 |
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog | 31,730 | 4.89 | 2.23 | 1.24 | 11.98 | 3.34 | 76.31 |
Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro | 21,919 | 5.80 | 3.39 | 1.83 | 18.08 | 2.52 | 68.39 |
Parc Cenedlaethol Eryri | 24,702 | 6.13 | 5.25 | 2.30 | 54.52 | 1.66 | 30.15 |
Diwylliant Cymru |
---|
Traddodiad |
Llenyddiaeth |
Cerddoriaeth |
Bwyd |
Dathliadau a gwyliau |
Chwaraeon |
Crefydd |
Hanes |
WiciBrosiect Cymru |
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Mae y bumed ran o boblogaeth Cymru yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cefnogir y cysyniad o "Gymru ddwyieithog" gan nifer o sefydliadau, mudiadau cymdeithasol, a phleidiau gwleidyddol, yn cynnwys Plaid Cymru,[2] Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,[3] y Ceidwadwyr Cymreig,[4] a'r cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan.[5]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Daeth yr iaith Ladin i Gymru yn ystod oes yr Ymerodraeth Rufeinig. Parhaodd yn iaith y werin am ychydig canrifoedd, nes twf grŵp ethno-ieithyddol y Cymry. Lladin oedd yr iaith ryngwladol drwy gydol yr Oesoedd Canol, cyn iddi golli statws i Saesneg yn y cyfnod modern.
Bu dafodiaith y Roma yng Nghymru, gelwir heddiw yn Romani Cymraeg yn goroesi yn y gogledd hyd at 1950, ac er ei fod yn ffurf ar Romani ac felly o deulu'r ieithoedd Indo-Ariaidd, mae ganddi nifer o fenthyceiriau Cymraeg a Saesneg. Cyfarfu Derek Tipler â charfan o Roma oedd yn medru'r iaith yn Sir Gaernarfon yn 1950. Manfri Wood yw'r siaradwr rhugl olaf yn yr iaith Romani a wyddys amdano yng Nghymru, a bu farw tua 1968.[6]