Ieithoedd Nguni

Ieithoedd Nguni
Enghraifft o'r canlynolteulu ieithyddol Edit this on Wikidata
MathSouthern Bantu Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Canran siaradwyr ieithoedd neu continiwm iaith Nguni ar draws De Affrica (2011)
Dwysedd siadradwyr ieithoedd Nguni ar draws De Affrica (2011)

Mae'r ieithoedd Nguni (hefyd, weithiau isiNguni [1] yn grŵp o ieithoedd Bantw sy'n perthyn yn agos i'w gilydd a siaredir yn ne Affrica (yn bennaf De Affrica, Zimbabwe a Theyrnas eSwatini) gan bobl Nguni. Mae ieithoedd Nguni yn cynnwys Xhosa (isiXhosa), Swlŵeg (isiZulu), Ndebele, a siSwati (adnebir hefyd fel Swazi) (gelwir hefyd yn seSwati, hefyd yn flaenorol, Swazi). Mae'r tadogaeth "Nguni" yn deillio o fath o wartheg brodorol, gwartheg Nguni. Mae Ngoni (gweler isod) yn amrywiad hŷn, neu wedi'i symud.

Dadleuir weithiau fod y defnydd o Nguni fel label generig yn awgrymu undod monolithig hanesyddol y bobl dan sylw, lle y gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn fwy cymhleth mewn gwirionedd.[2] Mae defnydd ieithyddol y label (sy'n cyfeirio at is-grŵp o Bantw) yn gymharol sefydlog.

O safbwynt golygyddol Saesneg, mae'r erthyglau "a" ac "an" ill dau yn cael eu defnyddio gyda "Nguni", ond mae "a Nguni" yn amlach a gellir dadlau yn fwy cywir os ynganir "Nguni" fel yr awgrymir.

Dosbarthiad

[golygu | golygu cod]
Geiriadur isiZulu - Saesneg

Mae'r ieithoedd Nguni yn perthyn yn agos, ac mewn llawer o achosion mae gwahanol ieithoedd yn gyd-ddealladwy; yn y modd hwn, efallai y byddai'n well dehongli ieithoedd Nguni fel continwwm tafodieithol nag fel clwstwr o ieithoedd ar wahân. Ar fwy nag un achlysur, mae cynigion wedi'u cyflwyno i greu iaith Nguni unedig.[3][4]

Mewn llenyddiaeth ysgolheigaidd ar ieithoedd de Affrica, ystyrir yn draddodiadol bod y categori dosbarthiadol ieithyddol "Nguni" yn cynnwys dau is-grŵp: "Zunda Nguni" a "Tekela Nguni."[5][6] Mae'r rhaniad hwn yn seiliedig yn bennaf ar y gwahaniaeth ffonolegol amlwg rhwng cytseiniaid coronaidd cyfatebol: Zunda /z/ a Tekela /t/ (felly ffurf frodorol yr enw Swati a'r ffurf Zulu mwy adnabyddus Swazi), ond mae llu o newidynnau ieithyddol ychwanegol sy'n galluogi rhaniad cymharol syml i'r ddau hyn is-ffrwd Nguni.

Ieithoedd (neu continiwwm) Tekela

[golygu | golygu cod]

Ieithoedd (neu continwwm) Zunda

[golygu | golygu cod]
  • Matabele (Gogledd Ndebele or 'Ndebele Zimbabwe'; (dros 4 miliwn siaadwr yn 2000,[11] un o ieithoedd swyddogol Zimbabwe)
  • De Ndebele (tua 2 miliwn siaradwr,[10] iaith swyddgol yn Ne Affrica)
  • Xhosa (oddeutu 8 miliwn siaradwr,[10] ac un o ieithoedd swyddogol De Affrica)
  • Swlŵeg (tua 12 miliwn siaradwr yn 2011,[10] un o ieithoedd swyddogol De Affrica)

Noder: Mae Maho (2009) hefyd yn rhestru S401 Hen Mfengu.

Priodweddau ffonetig nodweddiadol

[golygu | golygu cod]
  • Pum llafariad trwy gyfuno llafariaid Proto-Bantu sydd bron yn gaeedig a chaeedig (eithriadau yn Phuthi)
  • Bron bob amser straen ar y sillaf olaf ond un
  • Gwahaniaeth rhwng ynganiad uchel ac isel mewn rhagddodiaid enwau
  • Defnydd o gytseiniaid anadlol (llais anadl), sy'n gweithredu'n rhannol fel "cytseiniaid iselydd" (cytseiniaid iselydd)[12]
  • Defnyddio cytseiniaid dyhead
  • Defnyddio synau clicio (ac eithrio yn Ndebele Gogleddol), ffwythiant na fodolir mewn ieithoedd Bantu eraill</ref name="fideo">

Cymharu iaith

[golygu | golygu cod]

Cymharer y brawddegau isod:

Iaith "Rwy'n hoffi dy ffyn newydd"
Swlŵeg Ngi-ya-zi-thanda izi-nduku z-akho ezin-tsha
Xhosa Ndi-ya-zi-thanda ii-ntonga z-akho ezin-tsha
Gogledd Ndebele Ngi-ya-zi-thanda i-ntonga z-akho ezin-tsha
De Ndebele Ngi-ya-zi-thanda iin-ntonga z-akho ezi-tjha
Bhaca Ndi-ya-ti-thsandza ii-ntfonga t-akho etin-tsha
Hlubi Ng'ya-zi-thanda iin-duku z-akho ezintsha
Swazi Ngi-ya-ti-tsandza ti-ntfonga t-akho letin-sha
Mpapa Phuthi Gi-ya-ti-tshadza ti-tfoga t-akho leti-tjha
Sigxodo Phuthi Gi-ya-ti-tshadza ti-tshoga t-akho leti-tjha

Noder: Xhosa ⟨tsh⟩ = Phuthi ⟨tjh⟩ = IPA [tʃʰ]; Phuthi ⟨tsh⟩ = [tsʰ]; Zulu ⟨sh⟩ = IPA [ʃ], ond, yn yr cyd-destun rhoddir yma, mae /ʃ/ yn "nasally permuted" i [tʃ]. Phuthi ⟨jh⟩ = lleisiad anadlog [dʒʱ] = Xhosa, Zulu ⟨j⟩ (yn y cyd-destun rhoddir yma, mae'r trwynol [n]). Zulu, Swazi, Hlubi ⟨ng⟩ = [ŋ].

Language "Rwy'n deall ond ychydig Saesneg"
Swlŵeg Ngisi-zwa ka-ncane isi-Ngisi
Xhosa Ndisi-qonda ka-ncinci nje isi-Ngesi
Gogledd Ndebele Ngisi-zwisisa ka-ncane isiKhiwa [13]
De Ndebele Ngisi-zwisisa ka-ncani nje isi-Ngisi
Hlubi Ng'si-visisisa ka-ncani nje isi-Ngisi
Swazi Ngisiva ka-ncane nje si-Ngisi
Mpapa Phuthi Gisi-visisa ka-nci të-jhë Si-kguwa
Sigxodo Phuthi Gisi-visisa ka-ncinci të-jhë Si-kguwa

Noder: Phuthi ⟨kg⟩ = IPA [x].

Cyd-dealltwriaeth Cyfoes ar y Cyfryngau

[golygu | golygu cod]

Ceir elfen gref o ddealltwriaeth ar draws y gwahanol ieithoedd neu beth gellid disgrifio fel continiwm tafodiaith. Gwelir enghreifftiau ar y we:

  • Mae Comedy Central Africa ar Youtube yn llwytho sioeau comedi dan yr iaith a frandir fel Nguni sy'n cynnwys comediwyr, Siya Seya sy'n siarad mewn isiXhosa ond sy'n ddealladwy i siaradwyr tafodiaethoedd eraill.[14]
  • Gwasanaeth Newyddion Newsroom Afrika sydd yn Nguni - gwasanaeth newyddion yn Ne Affrica a lansiwyd yn 2023 ar sianel deledu 163.[15]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Doke, Clement Martyn (1954). The Southern Bantu Languages. Handbook of African Languages. Oxford: Oxford University Press.
  • Wright, J. (1987). "Politics, ideology, and the invention of the 'nguni'". In Tom Lodge (gol.). Resistance and ideology in settler societies. tt. 96–118.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Zulu / Xhosa". The World is Our Thing. 2020.
  2. Wright 1987.
  3. Eric P. Louw (1992). "Language and National Unity in a Post-Apartheid South Africa". Critical Arts. https://d.lib.msu.edu/caj/170.
  4. Neville Alexander (1989). "Language Policy and National Unity in South Africa/Azania".
  5. Doke 1954.
  6. Ownby 1985.
  7. Jordan 1942.
  8. "Isizwe SamaHlubi: Submission to the Commission on Traditional Leadership Disputes and Claims: Draft 1" (PDF). July 2004. Cyrchwyd 28 July 2011.
  9. Donnelly 2009, t. 1-61.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 Cyfrifiad De Affrica 2011, swm y canlyniadau ar gyfer y naw talaith, adalwyd ymlaen 4 Awst 2017.
  11. Northern Ndebeleyn salanguages.com (Saesneg), cyrchwyd 5 Awst 2017.
  12. Sónja Frota, Gorka Elordieta, Pilar Prieto (Hrsg.): Prosodic Categories: Production, Perception and Comprehension. Springer Science and Business Media, Berlin/ Heidelberg 2011, ISBN 978-94-007-0137-3, S. 251. Auszüge bei books.google.de
  13. www.northerndebele.blogspot.com[dolen farw]
  14. "Siya Seya, Laugh In Your Language Season 1, Nguni". Comedy Central Africa. 2020.
  15. "Excitement ahead of Nguni language news premiere". Newsroom Afrika. 2023.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.