Delwedd:Illu small intestine.jpg, Illu small intestine català.png | |
Enghraifft o'r canlynol | math o organ, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | zone of small intestine, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | coluddyn bach |
Cysylltir gyda | jejunwm, colon, colon esgynnol, coluddyn dall, coluddyn mawr |
Rhagflaenwyd gan | jejunwm |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr ilëwm /ˈɪliəm//ˈɪliəm/ (hefyd glasgoluddyn) yw'r rhan olaf o'r coluddyn bach yn y rhan fwyaf o fertebratiaid uwch, gan gynnwys mamaliaid, ymlusgiaid ac adar. Mewn pysgod, nid yw'r gwahaniadau yn y goluddyn bach mor eglur a gellir defnyddio'r term ôl-berfeddyn yn lle'r ilëwm.[1]
Mae'r ilëwm yn dilyn y dwodenwm a'r jejwnwm ac wedi ei wahanu oddi wrth y coluddyn dall (caecwm) gan y falf ileocaecol (ICV). Mewn bodau dynol, mae'r ilëwm tua 2–4 m o hyd, ac mae'r gwerth pH fel arfer rhwng 7 ac 8 (niwtral i ychydig yn alcalïaidd).
Mae'r gair Lladin Canol īleum yn deillio o gymysgu'r geiriau Lladin clasurol īleus, īleos ‘bolgnofa, colig’ ag īlia ‘cesail y forddwyd, ymysgaroedd’.