Imogen Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 29 Tachwedd 1982, 27 Tachwedd 1982 Gorseinon |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | model |
Gwefan | http://www.imogenthomasofficial.com/ |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Model a cyflwynydd teledu o Gymru ydy Imogen Mary Thomas (ganed 29 Tachwedd 1982). Daeth yn enwog yn 2003, ar ôl iddi ddwyn y teitl Miss Cymru. Cynyddodd ei henwogrwydd yn 2006 pan ymddangosodd yn y gyfres deledu realiti Big Brother.
Fe'i ganwyd i Charles Thomas, swyddog lles addysgol, a'i wraig Janette yn Ngorseinon, ger Abertawe. Gwahanodd y ddau pan oedd Imogen yn ddwy oed, ac ail-briododd ei mam pan oedd yn chwech. Fe'i magwyd gan ei mam a'i llysdad yn Llanelli.
Fel nifer o'r cystadleuwyr eraill, cymerodd Imogen ran mewn nifer o raglenni teledu a oedd yn gysylltiedig i Big Brother, gan gynnwys BBLB a Big Brother's Big Mouth. Roedd hefyd wedi cyd-gyflwyno T4.
Am ei bod yn siarad Cymraeg, mae hefyd wedi ymddangos ar nifer o raglenni S4C, gan gynnwys Uned 5, Wedi 3, Wedi 7, Jonathan Show a Bwrw Bar. Roedd ganddi ei sioe ei hun gyda Glyn o'r rhaglen Big Brother hefyd o'r enw Glyn and Imogen: A Year On. Cafodd rôl cameo hefyd yn yr opera sebon Cymreig Pobol y Cwm.
Cafodd Thomas berthynas gyda'r model Americanaidd Tyson Beckford, a gyfarfyddodd am y tro cyntaf yn y Sanderson Hotel.[1] Ers ymddangos ar Big Brother mae hefyd wedi canlyn Russell Brand,[2] chwaraewr polo Jamie Morrisson,[3] a'r pêldroedwyr Matthew Collins o Ddinas Abertawe, a Jermain Defoe o Tottenham Hotspur.[4]
Ym mis Ebrill 2011, cyhoeddodd papur newydd The Sun fod Imogen wedi bod yn cael perthynas gyda phêldroediwr di-enw priod o Uwchgynghrair Lloegr.[5] Dyfarnwyd uwch-waharddeb, a alwyd CTB v News Group Newspapers [6], yn Uchel Lys Cyfiawnder Cymru a Lloegr gan Mr Ustus Eady, a rwystrai'r pêldroediwr rhag cael ei enwi yng nghyfryngau'r DU[7]. O ganlyniad, trodd Imogen at y swyddog cysylltiadau cyhoeddus Max Clifford, a ddywedodd “Imogen never had any desire nor intention to sell her story, however if she had and was able to name the footballer she could easily command £250,000".[8][9] Fodd bynnag, yn Nhŷ'r Cyffredin ar 23 Mai datgelodd yr Aelod Seneddol John Hemming mai Ryan Giggs oedd y pêldroediwr gan ddefnyddio braint seneddol.[10]