Ina Seidel | |
---|---|
Ganwyd | 15 Medi 1885 Halle (Saale) |
Bu farw | 2 Hydref 1974 Schäftlarn |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor |
Adnabyddus am | Labyrinth |
Priod | Heinrich Wolfgang Seidel |
Gwobr/au | Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Gwobr Franz-Grillparzer, Gwobr Wilhelm Raabe, Urdd Teilyngdod Bavaria |
Awdur o'r Almaen oedd Ina Seidel (15 Medi 1885 - 2 Hydref 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd telynegol a sgwennai mewn Almaeneg. Ymhlith ei hoff themâu roedd mamolaeth a dirgelion hil ac etifeddiaeth.
Fe'i ganed yn Halle (Saale), yn nhalaith Sachsen-Anhalt yn yr Almaen a bu farw yn Schäftlarn ym München.[1][2][3][4][5]
Ganwyd Johanna Mathilde "Ina" Seidel yn Halle, yr hynaf o dri phlentyn. Hanner blwyddyn yn ddiweddarach symudodd y teulu i Braunschweig, lle cafodd ei magu am oddeutu deng mlynedd. Roedd ei thad, Hermann Seidel, yn uwch lawfeddyg ym mhrif ysbyty'r ddinas. Gadawodd hunanladdiad Hermann Seidel ym 1895 ei weddw a'i blant i fyw mewn amgylchiadau tlotach. Credir iddo gael ei yrru i ladd ei hun gan "wleidyddiaeth swyddfa" dyddiol yr ysbyty lle gweithiai.[6]
Roedd mam Ina Seidel, a anwyd Emmy Loesevitz (1861–1945), yn dod o deulu gogleddol. Ar ôl hunanladdiad Hermann aeth ei mam â'r plant i fyw ym Marburg ym 1896 ac yna i München ym 1897. A hithau yn ei arddegau, tua throad y ganrif daeth Ina Seidel i ymwneud â'r sîn gelf afieithus a leolwyd yn Schwiching, München.
Roedd brawd Ina Seidel, Willy Seidel (1887–1934), yn awdur hefyd ac roedd Annemarie Seidel (1894–1959), ei chwaer iau, yn actores.
Yn 1907 priododd Ina Seidel ei chefnder cyntaf, y gweinidog efengylaidd a'r awdur Heinrich Wolfgang Seidel (1876-1945). Arhosodd enw ei theulu yr un fath ag o'r blaen. Symudodd y cwpl i Berlin lle cafodd Heinrich blwyf dan ei ofalaeth. Y flwyddyn wedyn, yn dilyn genedigaeth ei phlentyn cyntaf, Heilwig, aeth Ina'n sâl gyda thwymyn. Llwyddodd i fyw bywyd confensiynol fel gwraig gweinidog, gwraig tŷ a mam, ond araf oedd ei hadferiad ac arhosodd gartref am lawer o'r amser. Ni wellodd hi'n llwyr erioed.[7]
Daeth ysgrifennu yn rhan bwysig o'i bywyd. Ysgrifennodd gerddi a chysylltodd â llenorion aristocrataidd a oedd yn ymgynull o amgylch Börries von Münchhausen (1874–1945) a set Göttinger Musenalmanach, gan gynnwys Lulu von Strauß und Torney (1873–1956) ac Agnes Miegel (1879–1964).
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau Prwsa, Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd. [8]