Instituto Caro y Cuervo

Instituto Caro y Cuervo
Math o gyfrwngsefydliad, ysgol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1942 Edit this on Wikidata
Map
Aelod o'r  canlynolAssociation of Colombian Universities Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadMinistry of Culture Edit this on Wikidata
RhanbarthBogotá Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.caroycuervo.gov.co Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Instituto Caro y Cuervo (Sefydliad Caro a Cuervo) yn ganolfan ar gyfer astudiaethau uwch sy'n arbenigo mewn ieithyddiaeth, ieitheg a llenyddiaeth Castileg sydd wedi'i lleoli yn hen ganolfan hanesyddol Bogota, Colombia.

Mae'n endid sy'n gysylltiedig â'r Weinyddiaeth Ddiwylliant Colombia a'i phrif amcan yw meithrin ymchwil wyddonol ym meysydd ieithyddiaeth, ieitheg, llenyddiaeth, y dyniaethau a hanes diwylliant Colombia. Mae'n cynnig ac yn gweithredu polisïau i ddogfennu, atgyfnerthu a chyfoethogi treftadaeth ieithyddol y genedl, y mae’n datblygu ymchwil ar ei chyfer yn y meysydd a ganlyn: Ieithoedd mewn Cysylltiad, Ieithoedd Brodorol a Chraidd, Llenyddiaeth Colombia a Sbaenaidd-Americanaidd, Dadansoddi Disgwrs, meddylwyr y 19g, Llafaredd ac Ysgrifennu.[1]

Amcanion

[golygu | golygu cod]
Miguel Antonio Caro
Rufino José Cuervo yn ddyn ifanc

Pwrpas Stiwt Caro y Cuervo yw hybu a datblygu ymchwil, addysgu, cynghori a lledaenu ieithoedd y diriogaeth genedlaethol a’u llenyddiaeth, gyda golwg ar gryfhau eu defnydd a’u cydnabyddiaeth yn seiliedig ar eu bri cymdeithasol a’u gwerth esthetig . I'r perwyl hwn, mae'r ICC yn cynghori Talaith Colombia ac yn cyfrannu at ddatblygu polisïau ar gyfer cryfhau a chadw treftadaeth anniriaethol y genedl.

Yn yr un modd, mae'n cadw, yn llunio, yn cyhoeddi ac yn dosbarthu dogfennau ysgrifenedig a chlyweledol, yn ogystal ag elfennau o dreftadaeth faterol, i gyfrannu at gadwraeth hanes diwylliant Colombia (Erthygl 4, Cytundeb 002 o 2010)..[2]

Hanesydd

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y stiwt yn 1942 gan lywodraeth Colombia. Mae wedi'i henwi ar ôl dau ieithydd Colombia, cyn-Arlywydd Colombia Miguel Antonio Caro a Rufino José Cuervo. Mae'r sefydliad wedi'i leoli ym man geni Rufino José Cuervo.

Mae Sefydliad Caro y Cuervo wedi ennill nifer o wobrau a gwobrau rhyngwladol mawr am ei waith, gan gynnwys Gwobr fawreddog Tywysog Asturias am y gwaith Diccionario de construcción y régimen de la lengua castellana.

Sefydliadau tebyg

[golygu | golygu cod]

Mae Instituto Caro y Cuervo yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua) a'r Catalaniaid (gydag Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Historia Instituto Caro y Cuervo, institución clara". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-08-10. Cyrchwyd 2023-03-29.
  2. "Objetivos y funciones". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-08-10. Cyrchwyd 2023-03-29.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Colombia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato