Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Mawrth 2000 |
Pencadlys | Warsaw |
Rhanbarth | Warsaw |
Gwefan | http://www.iam.pl/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydliad yw Instytut Adama Mickiewicza, ('Sefydliad Adam Mickiewicz') a ariennir gan Weinyddiaeth Diwylliant a Threftadaeth Genedlaethol Gwlad Pwyl, ac sydd â'i bencadlys yn ulica Mokotowska 25 (Palas Siwgr) yn Warsaw. Fe'i hadnebir yn flaenorol fel Centrum Międzynarodowej Współpracy Kulturalnej Instytut Adama Mickiewicza[1] ('Canolfan Cydweithrediad Diwylliannol Rhyngwladol Sefydliad Adam Mickiewicz')
Wedi'i enwi ar ôl y bardd cenedlaethol Pwylaidd, Adam Mickiewicz (1798–1855), ei nod yw hyrwyddo'r iaith Bwyleg a diwylliant Pwylaidd dramor.[2] Mae'r sefydliad yn cynnal gwefan o'r enw "culture.pl", a sefydlwyd ar 1 Mawrth 2000, sydd bellach yn bedair-ieithog (Pwyleg, Saesneg, Rwseg ac Wcreineg).
Yn ogystal â nifer fawr o feirdd, traethodyddion, llenorion, cyfieithwyr, arlunwyr cysylltiedig; beirniaid llenyddol, cerdd, a ffilm; a churaduron, mae'r Sefydliad yn cynnwys Barbara Schabowska, y Cyfarwyddwr (y cyntaf oedd Krzysztof Olendzki[3] a Paweł Potoroczyn),[4] yn ogystal â thri dirprwy gyfarwyddwr a nifer o reolwyr prosiectau a rhaglenni allweddol.
Yn ogystal â Sefydliad Adam Mickiewicz a noddir gan y Weinyddiaeth Ddiwylliant, mae Sefydliadau Diwylliannol Pwylaidd, a noddir gan Weinyddiaeth Materion Tramor Gwlad Pwyl,[5] mewn dros 22 o ddinasoedd tramor mawr, gan gynnwys Berlin, Bratislava, Budapest, Bucharest, Düsseldorf, Kyiv, Leipzig, Llundain, Minsg, Mosgo, Dinas Efrog Newydd, Paris, Prâg, Rhufain, St Petersburg, Sofia, Stockholm, Tel Aviv, Fienna, a Vilnius.
Tra bod Sefydliad Adam Mickiewicz yn cydweithio'n aml â'r Sefydliadau Diwylliannol Pwylaidd, mae pob sefydliad yn annibynnol ar ei gilydd ac yn cael ei noddi gan weinidogaeth lywodraethol Bwylaidd wahanol.[6]
Mae'r Sefydliad wedi cynllunio dros 400 o fentrau diwylliannol fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethol Amlflwydd "Niepodległa".[7] Mae'r Sefydliad yn rhoi gwybod am ei weithgareddau ar broffiliau ar Youtube, cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys Facebook a Twitter).
Mae Instytut Adama Mickiewicza yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.