Mae ioga modern fel ymarfer corff yn weithgaredd corfforol diweddar sy'n cynnwys gwahanol asanas, neu ddilyniannau o asanas (Vinyāsa), ymarferion anadlu, ac ymlacio drwy orwedd neu fyfyrio. Mae ioga o'r math hwn (a elwir, fel arfer yn ioga modern) wedi dod yn gyfarwydd ledled y byd, yn enwedig yn Unol Daleithiau America ac Ewrop. Mae'n deillio o ioga haṭha canoloesol, Indiaidd, a ddefnyddiai asanas tebyg. Mae academyddion wedi rhoi amryw o enwau i ioga fel ymarfer corff, gan gynnwys ioga osgo modern (modern postural yoga)[1] ac ioga angloffon trawswladol.[2]
Disgrifir osgo'r corff (asana) yn Swtrâu Ioga Patanjali II.29 fel y drydedd o'r wyth cangen o ioga: yr ashtanga. Mae Sutra II.46 yn ei ddiffinio fel yr hyn sy'n gyson ac yn gyfforddus, ond ni ymhelaethir ymhellach na rhestr o asanas myfyriol.
Mae'r enw Sansgritioga, sy'n gytras â'r Cymraeg "iau", yn deillio o'r gwreiddyn yuj "atodi, uno, harneisio, iau".[3] Ei nod ysbrydol ac athronyddol hynafol oedd uno'r ysbryd dynol â'r dwyfol. Y gangen o ioga sy'n defnyddio ystum corfforol yw ioga haṭha.[4][5] Mae'r gair Sansgritहठ haṭha yn golygu "grym", gan gyfeirio at ei ddefnydd o dechnegau corfforol.[4]
Yn ôl un ddamcaniaeth, daeth y system addysg gorfforol a arferid yng Nghymdeithas Gristnogol Dynion Ifanc (yr YMCA) drwy Ewrop yn y 19g, a addaswyd gan gyn-gymnastwyr milwrol ar gyfer y system addysg yn India Brydeinig drefedigaethol, yn ffurf ddiofyn o ddril torfol, a dylanwadodd hyn ar yr "ioga hatha modern".[6][7] Yn ôl yr ysgolhaig ioga Suzanne Newcombe, erbyn yr 20g roedd ioga modern yn gyfuniad o gymnasteg y Gorllewin ac asanas ioga Haṭha Indiaidd.[8] Mewn cyferbyniad, gwrthododd Mircea Eliade ioga fel arfer athletaidd, gan nodi “na ddylid drysu ioga â gymnasteg”.[7]
Ioga cyhoeddus yn Jakarta, 2013. Mae'r cyfranogwyr yn ymlacio yn y safle a elwir yn Shavasana. Caniateir ioga (yma Hanumanasana) ym Malaysia cyn belled nad yw'n cynnwys unrhyw elfen grefyddol[9]
Ymunodd Gweinidog India dros Fenywod a Datblygiad Plant, Maneka Gandhi, â rhaglen ioga ar gyfer menywod beichiog yn 2018. Mae hi'n eistedd yn Dandasana (Y Ffon).
Mae ioga fel ymarfer corff wedi cael ei boblogeiddio yn y byd Gorllewinol gan honiadau am ei fanteision i iechyd pobl.[10] Adolygwyd rhai o'r honiadau hyn gan William J. Broad yn ei lyfr 2012 The Science of Yoga; dywed fod yr honiadau o hyn wedi cychwyn gan Hindŵiaid cenedlaetholgar.[11] Ymhlith yr esbonwyr cynnar roedd Kuvalayananda, a geisiodd ddangos yn wyddonol yn ei labordy pwrpasol yn 1924 yn Kaivalyadhama bod Sarvangasana (sefyll ar yr ysgwyddau) wedi hybu'r chwarennau endocrin, yn benodol (yr organau sy'n secretu hormonau). Ni chanfu unrhyw dystiolaeth i gefnogi honiad o'r fath, ar gyfer yr asana hwn nac unrhyw asana arall.[12]
Mae effaith ioga fel ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol wedi bod yn destun astudiaethau systematig (gwerthuso ymchwil sylfaenol), er bod adroddiad yn 2014 wedi canfod, er gwaethaf ei arfer cyffredin a'i fanteision iechyd posibl, ei fod yn parhau i fod yn ymchwil gwyddonol, academaidd yn hynod o brin.[13] Canfu adolygiad systematig o chwe astudiaeth fod Ioga Iyengar yn effeithiol o leiaf yn y tymor byr ar gyfer poen gwddf a phoen cefn isel.[14] Canfu adolygiad o chwe astudiaeth fanteision ar gyfer iselder ysbryd, ond nododd fod dulliau'r astudiaethau yn gosod cyfyngiadau,[15] tra bod canllaw ymarfer clinigol gan Gymdeithas Canser America yn nodi y gallai ioga leihau pryder a straen mewn pobl â chanser.[16] Galwodd adolygiad systematig yn 2015 am fwy o drylwyredd mewn treialon clinigol o effaith ioga ar hwyliau pobl ac wrth fesur straen.[17]
Mae gwyliau ioga (gwyliau) yn cael eu cynnig o[18] gwmpas y byd, gan gynnwys yng Nghroatia, Lloegr, Ffrainc, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ, Indonesia, India, yr Eidal, Montenegro, Moroco, Portiwgal, Rwmania, Sbaen, Sri Lanka, Gwlad Thai, a Thwrci;[18][19][20] yn 2018, roedd prisiau llawer o'r rhain hyd at £1,295 (tua $1,500) am 6 diwrnod.[18]
Gall hyfforddiant athrawon (yn 2017), gostio rhwng $2,000 a $5,000,[21] gan gymryd hyd at 3 blynedd i gael tystysgrif addysgu.[22] Roedd cyrsiau hyfforddi ioga, o 2017, yn dal heb eu rheoleiddio yn y DU[23].[22]
Yn y 2000-2020au daeth Ioga Bikram yn frand byd-eang,[24] a threuliodd ei sylfaenydd, Bikram Choudhury, tua deng mlynedd o 2002 yn ceisio sefydlu hawlfraint ar y dilyniant o 26 asana a ddefnyddir yn Ioga Bikram, gyda rhywfaint o lwyddiant cychwynnol. Fodd bynnag, yn 2012, dyfarnodd llys ffederal America na ellid hawlfreintio symudiadau o'r math hwn.[25] Yn 2015, ar ôl camau cyfreithiol pellach, dyfarnodd llys apeliadau America nad oedd y dilyniant ioga a'r ymarferion anadlu yn gymwys.[26]
Swanson, Ann (2019). Science of yoga : understand the anatomy and physiology to perfect your practice. New York, New York: DK. ISBN978-1-4654-7935-8. OCLC1030608283.
↑Louie, Lila (2014). "The Effectiveness of Yoga for Depression: A Critical Literature Review". Issues in Mental Health Nursing35 (4): 265–276. doi:10.3109/01612840.2013.874062. PMID24702211.
↑Pascoe, Michaela C.; Bauer, Isabelle E. (1 Medi 2015). "A systematic review of randomised control trials on the effects of yoga on stress measures and mood". Journal of Psychiatric Research68: 270–282. doi:10.1016/j.jpsychires.2015.07.013. PMID26228429.