Iorwerth ap Bleddyn | |
---|---|
Ganwyd | 1053 |
Bu farw | 1111 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Teyrnas Powys |
Tad | Bleddyn ap Cynfyn |
Tywysog rhan o Deyrnas Powys oedd Iorwerth ap Bleddyn (1053-1111).
Roedd Iorwerth yn fab i Bleddyn ap Cynfyn, brenin Powys a Gwynedd. Pan laddwyd Bleddyn yn 1075, rhannwyd Powys rhwng tri o'i feibion, Iorwerth, Cadwgan a Maredudd.
Daliai Iorwerth, Cadwgan a Maredudd eu tiroedd oddi wrth Robert o Bellême, 3ydd Iarll Amwythig. Yn 1102 gwysiwyd yr Iarll i lys Henri I, brenin Lloegr i ateb cyhuddiadau, ac ymatebodd trwy wrthryfela yn erbyn y brenin. Ar y cychwyn roedd pob un o'r tri brawd yn cefnogi Robert ac yn ymladd ar ei ran, gan anrheithio Swydd Stafford. Gyrrodd y brenin William Pantulf i geisio ennill cefnogaeth Iorwerth, y mwyaf grymus o'r tri brawd, trwy gynnig tiroedd eang iddo. Llwyddodd William, ac arweiniodd Iorwerth fyddin fawr o Gymry i anrheithio Swydd Amwythig ar ran y brenin. Gorfodwyd Robert i ildio, ac alltudiwyd ef o'r deyrnas. Daliodd Iorwerth ei frawd Maredudd hefyd, a'i drosglwyddo i'r brenin.
Ni parhaoedd cefnogaeth Iorwerth i'r brenin yn hir. Rhoddwyd llawer o'r tiroedd oedd wedi eu haddo iddo ef i eraill, ac yn 1103 gwysiwyd Iorwerth o flaen tribiwnllys brenhinol yn Amwythig a'i garcharu. Ni ryddhawyd ef hyd 1110 wedi i Owain ap Cadwgan, mab ei frawd Cadwgan, gipio Nest, gwraig Gerallt o Benfro, gan arwain at ymladd. Llwyddodd Iorwerth i yrru Owain allan o Bowys ac adennill ei safle am gyfnod byr. Fodd bynnag, yn 1111 ymosododd Madog ap Rhiryd, oedd mewn cynghrair ag Owain, ar Iorwerth pan oedd yn aros mewn tŷ yng nghwmwd Caereinion. Gyrrwyd teulu Iorwerth ar ffo, a llosgwyd y tŷ. Pan geisiodd Iorwerth ddod allan o'r tŷ, gorfodwyd ef yn ei ôl a gwaywffyn, a bu farw. Ni adawodd fab, a phan laddwyd Cadwgan gan Madog yn fuan wedyn, cipiodd Owain ap Cadwgan y deyrnas.