![]() | |
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 892 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | canton of Iholdy, Pyrénées-Atlantiques, Nafarroa Beherea, arrondissement Baiona ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Arwynebedd | 26.39 km² ![]() |
Uwch y môr | 225 metr, 149 metr, 839 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Hélette, Iholdy, Jaxu, Macaye, Mendionde, Ossès, Suhescun ![]() |
Cyfesurynnau | 43.2569°N 1.2336°W ![]() |
Cod post | 64780 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Irissarry ![]() |
![]() | |
Mae Irisarri ([ iʁ̞is̺aʁi]) yn bentref ac yn fwrdeistref yng Ngwlad y Basg, yn rhanbarth Nafarroa Beherea.
Mae afon Laka, sy'n llifo i afon Errobi, yn mynd trwy'r pentref. Hefyd rhai o lednentydd afon Laka: afonydd Elhur, Oihanhandia, Gatarri a Larhan.
Daeth pentref Irisarri i fodolaeth wrth adeiladu'r Ospitalea a sefydlwyd yn y 12g, tua'r flwyddyn 1150, gan Farchogion yr Ysbyty. Tua'r flwyddyn 1530 daeth dan reolaeth Urdd Malta.
Yn 1350, yr oedd 23 o dai yn Irisarri, a phob un ond dau yn perthyn i'r Marchogion, gyda'u preswylwyr yn cyflawni dyletswyddau gweinyddol.
Yn 1607, lansiodd Martin de Larrea, arglwydd Irisarri, y gwaith o ailadeiladu’r Ospitalea, gan greu un o adeiladau harddaf Nafarroa Beherea. Adnewyddwyd yr ystafell weddi hefyd a'i throi'n eglwys y pentref. Trawsnewidiwyd yr eglwys yn 1860.
Mae nifer o adeiladau i'w gweld yn y pentref, llawer ohonynt o'r 17gDyma rai adeiladau pwysig:
Mae economi'r ardal yn seiliedig ar amaethyddiaeth. Roedd y ffair hyrddod a oedd yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn y dref yn boblogaidd iawn.[1]
Mae'r pentref wedi'i leoli ar y ffordd Errobi, amrywiad o Ffordd Sant Iago. Defnyddiwyd y llwybr hwn gan bererinion i ar eu ffordd o o Baiona cyn croesi'r Pyreneau o Donibane Garazi.