![]() | |
Enghraifft o: | plaid wleidyddol ![]() |
---|---|
Idioleg | Cenedlaetholdeb Gwyddelig ![]() |
Mudiad cenedlaetholgar Gwyddelig oedd yr Irish Confederation a sefydlwyd ar 13 Ionawr 1847 gan aelodau o Iwerddon Ifanc. Roedd yr aelodau wedi ymwahanu oddi ar y Gymdeithas Ddiddymu ('Repeal Society') Daniel O'Connell.[1] Disgrifiodd yr hanesydd T. W. Moody y Cydffederation fel "sefydliad swyddogol Iwerddon Ifanc".[2]
Ym Mehefin 1846, daeth y Blaid Ryddfrydol i rym ym Mhrydain Fawr dan arweiniad John Russell. Gydag hynny, dechreuodd O'Connell, a oedd wedi creu mudiad i arwain at Ddiddymiad neu, wrthod Deddf Uno Iwerddon â Phrydain 1800, geisio cynghreiriol â rhyddfrydiaeth Russell a Llywodraeth Prydain. Fe anghytunodd Thomas Francis Meagher ac aelodau iau y gymdeithas â'r strategaeth hon yn chwyrn. Fel ymateb, galwodd O'Connell yr aelodau ifanc yma yn, "chwyldroadwyr, anffyddlon a gelynion yr Eglwys". O ganlyniad, cafwyd rhwyg yn y mudiad Diwygiad a chreodd Meagher yr 'Irish Confederation' gydag ef a'i arweinwyr yn chwarae rhan flaenllaw yng Ngwrthryfel Iwerddon Ifanc yn 1848.
Roedd ei sylfaenwyr y Cydffereasiwn yn benderfynol o adfywio'r galw digyfaddawd am Senedd genedlaethol i Iwerddon gyda phwerau deddfwriaethol a gweithredol llawn. Roeddent yn benderfynol o waharddiad llwyr ar aelodau seneddol o'r Iwerddon yn derbyn swydd o dan y Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dymunent ddychwelyd at bolisi blynyddoedd cynharach y Repeal Association,[3] a chawsant eu cefnogi gan y gwŷr ieuainc.[4] Roedd argoelion helaeth fod llawer o'r dosbarth Unoliaethol blaenorol, yn y dinasoedd ac yn mhlith perchenogion tir, yn ddig at yr esgeulusiad o anghenion Gwyddelig gan y Senedd Brydeinig er dechrau'r Newin Mawr. Roeddent yn mynnu gweithredu deddfwriaethol hanfodol i ddarparu cyflogaeth a bwyd, ac i atal unrhyw allforio pellach o'r ŷd, gwartheg, moch a menyn a oedd yn dal i adael Iwerddon. Ar hyn, roedd consensws cyffredinol o farn Wyddelig yn ôl Dennis Gwynn, "y fath na wyddys ers cyn y Ddeddf Uno."
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Cydffederasiwn Gwyddelig yn y Rotunda, yn Nulyn ar 13 Ionawr 1847.[3][5]Cadeirydd y cyfarfod cyntaf oedd John Shine Lawlor, a'r ysgrifenyddion mygedol oedd John Blake Dillon a Charles Gavan Duffy. Byddai Meagher yn cymryd lle Duffy yn ddiweddarach.[4] Byddai deng mil o aelodau yn cael eu cofrestru, ond ychydig iawn o'r boneddigion oedd, gyda'r dosbarth canol yn sefyll ar wahân a'r clerigwyr Catholig yn ddrwgdybus o'r mudiad. Yn wyneb tlodi'r bobl, roedd tanysgrifiadau yn gwbl wirfoddol, a sylfaenwyr y mudiad newydd a ysgwyddau gost y mudiad ar ben eu hunain yn aml.[6]