![]() | |
Math | pont bwa dec, pont ffordd ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1 Ionawr 1781 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ironbridge ![]() |
Sir | The Gorge ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.6273°N 2.48542°W ![]() |
Cod OS | SJ6723803396 ![]() |
Hyd | 60 metr ![]() |
Rheolir gan | English Heritage ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | English Heritage ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Historic Civil Engineering Landmark ![]() |
Manylion | |
Deunydd | Haearn bwrw, puddled iron ![]() |
Pont sy'n croesi Afon Hafren yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw'r Iron Bridge. Agorwyd ym 1781, dyma'r bont fawr cyntaf (mwy na 100 troedfedd (30.5 medr) o hyd) i'w hadeiladu o haearn bwrw.[1]
Roedd y bont yn garreg filltir bwysig yn hanes peirianneg. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I ac mae'n sefyll yng Ngheunant Ironbridge, sydd ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986.[2]
Dechreuodd Abraham Darby I doddi mwyn haearn lleol gyda côc a wnaed o glo Coalbrookdale ym 1709, ac yn y degawdau nesaf daeth yr ardal yn ganolfan ddiwydiannol bwysig. Defnyddiwyd Afon Hafren ar gyfer cludo deunyddiau, ond roedd y Ceunant Afon Hafren yn rhwystr rhwng tref Broseley i'r de o'r afon a Madeley a Coalbrookdale i'r gogledd. Roedd angen pont uchel gyda dim ond un rhychwant oherwydd bod yn rhaid i longau uchel basio o dan.
Ym 1773 awgrymodd y pensaer Thomas Farnolls Pritchard adeiladu pont a wnaed o haearn. Yn y pen draw, cyflawnwyd ei gynllun, a chafodd y cydrannau eu gwneud yng ngwaith haearn Coalbrookdale ym 1777-79. Agorwyd y bont i draffig yn 1781.