Noctua fimbriata | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Noctua |
Rhywogaeth: | N. fimbriata |
Enw deuenwol | |
Noctua fimbriata Schreber, 1759 |
Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Noctuidae yn urdd y Lepidoptera yw isadain felen amryliw, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy isadenydd melyn amryliw; yr enw Saesneg yw Broad-bordered Yellow Underwing, a'r enw gwyddonol yw Noctua fimbriata.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop, Anatolia, y Cawcasws a Gogledd Affrica.
45–55 mm ydy lled yr adenydd gyda'r adain flaen rhwng 22–27 mm o hyd. Tua diwedd Mehefin hyd at fis Medi mae'r oedolyn yn hedfan.
Prif fwyd y siani flewog ydy dail tafol (rumex), danadl poethion a phlanhigion byr eraill.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r isadain felen amryliw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.