Islwyn Morris | |
---|---|
Ganwyd | 26 Awst 1920 Abertawe |
Bu farw | 26 Ebrill 2011 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Actor o Gymro oedd Islwyn Morris (26 Awst 1920 – 26 Ebrill 2011) oedd yn adnabyddus am chwarae cymeriad Mr Tushingham ar Bobol y Cwm am 25 mlynedd.
Ganwyd Islwyn Morris yn Abertawe yn 1920. Cychwynnodd ei yrfa actio mewn theatr cwmni yn Abertawe, gan ymddangos gyda Maudie Edwards, ymysg eraill.[1]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe wasanaethodd gyda Cyffinwyr De Cymru.[2]
Mae ei rannau mwya nodedig ar deledu yn cynnwys Dad yn Satellite City (1995-1999), David Tushingham yn Pobol y Cwm, a Inspector Idris Vaughan yng nghomedi sefyllfa y 1970au Glas y Dorlan. Fe ymddangosodd yn helaeth ar raglenni Saesneg hefyd yn cynnwys Z-Cars, The District Nurse a High Hopes. Mae ei rannau ar radio yn cynnwys yr opera sebon Station Road ar BBC Radio Wales, a Mr Pritchard yng nghynhyrchiad y BBC o Under Milk Wood yn 2003.
Bu farw yn 90 oed ar 26 Ebrill 2011. Fe'i ddisgrifwyd gan gyfarwyddwr BBC Cymru Keith Jones fel "un o'n actorion mwyaf poblogaidd ni yng Nghymru".[3]