Issey Miyake | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 三宅 一生 ![]() 22 Ebrill 1938 ![]() Hiroshima ![]() |
Bu farw | 5 Awst 2022 ![]() o hepatocellular carcinoma ![]() Tokyo ![]() |
Dinasyddiaeth | Japan, Ymerodraeth Japan ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dylunydd ffasiwn, cynllunydd, person busnes, perfumer ![]() |
Blodeuodd | 2016 ![]() |
Gwobr/au | Urdd Diwylliant, Commandeur de la Légion d'honneur, Praemium Imperiale, Person Teilwng mewn Diwylliant, Gwobr Kyoto yn y Celfyddydau ac Athroniaeth, honorary Royal Designer for Industry, SOEN Award, Q126416268 ![]() |
Gwefan | http://www.isseymiyake.com/ ![]() |
Dylunydd ffasiwn o Japan oedd Issey Miyake (22 Ebrill 1938 – 5 Awst 2022).[1] Roedd yn adnabyddus am ei ddyluniadau dillad arloesol, yn ogystal â persawr fel L'Eau d'Issey. Ganwyd yn ninas Hiroshima, ac roedd yn dyst i'r ffrwydrad pan ollyngwyd y bom niwclear cyntaf arni ar 1 Awst 1945. Astudiodd ffasiwn yn Tokyo a Pharis cyn iddo symud i Efrog Newydd i weithio ac astudio. Yno daeth i adnabod artistiaid avant-garde fel Christo a Robert Rauschenberg. Ym 1970 dychwelodd i Tokyo, lle sefydlodd dŷ ffasiwn llwyddiannus. Daeth yn adnabyddus am doriad syml o'r dillad, a'u deunyddiau arloesol. Roedd ei ddefnydd o bletiau yn arbennig o nodweddiadol.