Ivor Herbert, Barwn 1af Treowen | |
---|---|
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1851 Llanarth Court |
Bu farw | 18 Hydref 1933 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | John Arthur Edward Herbert |
Priod | Albertina Denison |
Plant | Fflorens Mary Ursula Herbert, Elidyr Herbert |
Gwobr/au | Cydymaith Urdd y Baddon, Cydymaith Urdd St.Mihangel a St.Siôr |
Roedd yr Uwchgapten Cyffredinol Ivor John Caradoc Herbert, Barwn 1af Treowen CB, CMG, KStJ (15 Gorffennaf 1851 - 18 Hydref 1933, yn swyddog ym Myddin Prydain a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol De Sir Fynwy rwng 1906 a 1917.
Ganwyd Herbert yng Nghwrt Llanarth, Llanarth, Gwent yn fab hynaf John Arthur Edward Herbert, (a aned yn Arthur Jones) ac Augusta (née Hall) ei wraig. Augusta oedd unig blentyn byw ac etifedd, Benjamin Hall, Barwn 1af Llanofer a Gwenynen Gwent.