J. P. R. Williams | |||
Enw llawn | John Peter Rhys Williams | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 2 Mawrth 1949 | ||
Man geni | Pen-y-bont ar Ogwr | ||
Dyddiad marw | 8 Ionawr 2024 | (74 oed)||
Ysgol U. | Ysgol Gyfun Brynteg | ||
Prifysgol | Ysbyty Santes Fair, Llundain | ||
Gwaith | Llawfeddyg | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Cefnwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
1967–1968 1967–1968 1968–1976 1969–1977 1974 1976-1990s 1990s–2003 |
Pen-y-bont ar Ogwr Ysbyty Santes Fair Cymry Llundain Barbariaid Sharks (Cwpan Currie) Pen-y-bont ar Ogwr Tondu | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1969–1981 1971–1974 |
Cymru Y Llewod |
55 8 |
(36) (3) |
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru oedd John Peter Rhys Williams (2 Mawrth 1949 – 8 Ionawr 2024).[1] Enillodd 55 o gapiau i Gymru rhwng 1969 a 1981. Ystyrir ef yn un o'r cefnwyr gorau a welodd y gêm erioed. Daeth pobl i'w adnabod fel J. P. R. Williams neu JPR ar ôl 1973 pan ymunodd J. J. Williams â charfan Cymru.
Roedd yn chwaraewr tenis addawol iawn pan yn ieuanc, ac enillodd bencampriaeth ieuenctid Wimbledon yn 1966 cyn penderfynu canolbwyntio ar rygbi gan y byddai'n cyd-fynd yn well a'i astudiaethau meddygol. Chwaraeodd i glybiau Pen-y-bont ar Ogwr a Chymry Llundain.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn 19 oed yn 1969, a chwaraeodd yn y timau a gyflawnodd Y Gamp Lawn yn 1971, 1976, a 1978. Mewn deg gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr sgoriodd bum cais ac ni chollwyd yr un o'r gemau.
Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Seland Newydd yn 1971 a De Affrica yn 1974. Roedd y teithiau yma yn ddwy o'r teithiau mwyaf llwyddiannus yn hanes y Llewod, a chwaraeodd JPR ran fawr yn y llwyddiant.
Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol yn 1981 i ganolbwyntio ar ei yrfa fel llawfeddyg, er iddo barhau i chwarae rygbi clwb am gyfnod.
Fel cefnwr roedd yn enwog am ei ddewrder wrth amddiffyn ac am y ffordd y byddai'n dod i mewn i'r llinell wrth ymosod i greu bylchau.
Roedd JPR yn briod a Scilla ac yn byw ym mhentref Llansanwyr, ger y Bont-faen, Bro Morgannwg. Roedd ganddynt pedwar o blant.
Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd wedi gwaeledd byr yn brwydro llid yr ymennydd bacteriol.[2]