J. R. Jones

J. R. Jones
Ganwyd4 Medi 1911 Edit this on Wikidata
Pwllheli Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1970 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathronydd, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Cysylltir gydaCymdeithas yr Iaith Edit this on Wikidata
Am sylfaenydd y Bedyddwyr Albanaidd yng Nghymru, gweler J. R. Jones, Ramoth.

Athronydd ac awdur o Gymro oedd John Robert Jones, sy'n fwy adnabyddus fel J. R. Jones (4 Medi 19113 Mehefin 1970).

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed J. R. Jones ym Mhwllheli, Gwynedd. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio gyda dosbarth cyntaf mewn athroniaeth cyn gwneud M.A. yn Aberystwyth a D. Phil. yng Ngholeg Balliol, Rhydychen.

Dychwelodd i Aberystwyth fel darlithydd yn 1939, a bu yno hyd nes cael ei benodi'n Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe yn 1952, lle bu hyd ei farwolaeth. Roedd yn briod â Julia Roberts, ac roedd ganddynt un ferch fabwysiedig.

Roedd yn un o gefnogwyr cynharaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ar yr iaith gan gynnwys ei lyfr Prydeindod a oedd yn rhannol yn ymateb i syniadau newydd Owain Owain ar bwysigrwydd Y Fro Gymraeg. Ysgrifennodd hefyd ar grefydd. Dylanwadau eraill arno oedd: Paul Tillich, Simone Weil a Ludwig Wittgenstein.

Mae 'Wedi'r Storm' gan Gerallt Lloyd Owen, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cerddi'r Cywilydd, yn gerdd er cof am J. R. Jones.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae llawer o bamffledi J.R. Jones bellach wedi eu digido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac i'w darllen a lawrlwytho am ddim o lyfrgell y Coleg sydd ar ei gwefan:[1]

Gwaith J. R. Jones

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd hefyd nifer fawr o ysgrifau mewn cyfnodolion megis Efrydiau Athronyddol, Y Traethodydd, Proceedings of the Aristotelian Society ac eraill.

Astudiaethau

[golygu | golygu cod]
  • Cofio J. R. Jones: dau anerchiad (Caernarfon: Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Sir Gwynedd, 1990)
  • Dewi Z. Phillips J. R. Jones, Cyfres Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)
  • E. R. Lloyd-Jones, Llên y Llenor: J. R. Jones (Gwasg Pantycelyn, 1997)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "JR Jones". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 4 Medi 2024.