Llusern wed'i gwneud o erfinen, pwmpen neu wreiddlysieuyn arall sy'n cael ei gysylltu â Gŵyl Calan Gaeaf yw jac (y) lantar(n).[1] Mae'n cael ei greu trwy grafu'r tu fewn i'r gwreiddlysieuyn nes ei fod yn gau, gwneud tyllau ynddo ar ffurf wyneb, a gosod cannwyll yn ei ganol er mwyn ei oleuo. Mae'r tyllau sy'n ffurfio'r wyneb fel petaent yn cael eu goleuo gan y gannwyll. Mae'r Jac Lantar wedi'i enwi ar ôl y ffenomen ryfedd o oleuadau yn crynu dros gorsydd mawn, hefyd yn cael ei adnabod fel cannwyll y gors, hydlewyn, tân ellyll, ellyll-dân neu dân annwn.
O Iwerddon y daw'r Jac Lantar yn wreiddiol, yn ôl pob tebyg, ac mae ei enw hefyd yn gysylliedig â chwedl Wyddelig 'Stingy Jack', meddwyn sy'n taro bargen gyda Satan ac sydd wedi'i gondemnio i grwydro'r Ddaear gyda dim ond erfinen gau i oleuo'i ffordd.
Roedd yn cael ei ddweud bod y llusernau yn cynrychioli ysbrydion neu fodau goruwchnaturiol, neu'n cael eu defnyddio i gadw ysbrydion drwg i ffwrdd.[2] Er enghraifft, roedden nhw weithau yn cael eu defnyddio ar noson Calan Gaeaf i godi ofn ar bobl,[3] ac weithiau yn cael eu rhoi ar silffoedd ffenestri i gadw ysbrydion niweidiol allan o'r cartref.[4] Mae hefyd wedi'i awgrymu bod y Jac Lantar yn cynrychioli eneidiau Cristnogion ym mhurdan, gan fod Calan Gaeaf yn noswyl Dygwyl yr Holl Saint (1 Tachwedd) / Dygwyl Eneidiau (2 Tachwedd).[5]