Llysenw yw Jac Sais, neu Jaco, sy'n cyfeirio at rywun sy'n credu mai Lloegr (neu'r Deyrnas Unedig) yw'r unig wlad bwysig yn y byd. Ymhlith nodweddion pwysicaf Jac Sais mae ei gasineb tuag at estroniaid a'i amharodrwydd i siarad unrhyw iaith heblaw Saesneg.
Yng Nghymru, rhoddir y llysenw Jac Sais ar rhywun sy'n gwrthod cydnabod Cymru fel cenedl sydd ar wahân i Loegr, neu berson sy'n gwrthod siarad neu ddysgu Cymraeg. Ar adegau gelwir Cymro'n Jac Sais, pab fo'n dewis siarad Saesneg yn hytrach na Chymraeg.[1][2]