Actor o Gymro yw Jacob Ifan (ganwyd yn 1993).[1][2] sy'n adnabyddus am ei brif ran yn chwarae Jake Vickers yng nghyfres ddrama heddlu'r BBC, Cuffs a phrif ran yn nrama Gymraeg Bang ar S4C.[3][4]
Ganwyd Jacob Ifan Prytherch yng Nghaerdydd ac roedd byw yn Nhreganna cyn i'r teulu symud i Aberystwyth pan oedd yn naw mlwydd oed.[5] Roedd ei rieni Esther Prytherch a Rhodri Edwards yn dod o Aberystwyth yn wreiddiol. Bu'r teulu hefyd yn byw yn Y Borth a Llanfihangel y Creuddyn. Mae gan Jacob frawd hŷn, Harri, a chwaer iau, Hanna.[6] Aeth i Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Penweddig.[7] Mae'n gefnder i'r actor Tom Rhys Harries[8].
Roedd yn frwdfrydig am ffilmiau pan oedd e'n tyfu i fyny ac am fod yn rhan o'r byd hwnnw. Aeth i glwb drama Arad Goch yn blentyn ac wrth fynd yn hŷn roedd yn manteisio mwy ar gyfleoedd actio ac yn cymryd y peth fwy o ddifri. Ymunodd â theatr ieuenctid yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a cheisiodd am le yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Graddiodd Jacob o'r coleg yn 2015, ar ôl dechrau ffilmio Cuffs.[9][10]