James Lawrence

James Lawrence
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnJames Alexander Lawrence
Dyddiad geni (1992-08-22) 22 Awst 1992 (32 oed)
Man geniHenley-on-Thames, Swydd Rydychen, Lloegr
TaldraLua error in Modiwl:Convert at line 1851: attempt to index local 'en_value' (a nil value).
SafleAmddiffyn / canol cefn / canol-cae
Y Clwb
Clwb presennolSt. Pauli
Rhif3
Gyrfa Ieuenctid
2001–2003Arsenal
2005–2006Queens Park Rangers
2009–2011Ajax
2011–2012Sparta Rotterdam
2012–2014RKC Waalwijk
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2014–2018Trenčín86(5)
2018–Anderlecht8(0)
Tîm Cenedlaethol
2018–Cymru1(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 2 December 2018.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 08:34, 25 November 2018 (UTC)

Mae James Lawrence (ganed 22 Awst 1992) yn chwaraewr pêl-droed ryngwladol i Gymru ac wedi chwarae i sawl tîm yn Lloegr ac yn Ewrop.

Mae ar hyn o'r bryd yn chwarae i Anderlecht yng nghyngrair Gyntaf, Adran A Gwlad Belg ond bu'n chwarae cyn hynny i AS Trenčín o Super Liga Slofacia a thimau ieuenctid Arsenal, Queens Park Rangers, Ajax a Sparta Rotterdam.[1]

Gyrfa Clwb

[golygu | golygu cod]

Gyrfa Cynnar

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ei yrfa ieuenctid gyda chlybiau Enfield 1893 F.C., Arsenal a Queens Park Rangers. Yn 2008 symudodd ei deulu i'r Iseldiroedd lle ymunodd ag HFC Haarlem. Gadawodd Haarlen yn 2009 i ymuno ag Ajax gan ennill pencampwriaeth dan-19 Adran Gyntaf yr Iseldiroedd yn 2010-11. Cafodd wedyn gyfnodau gydag academïau ieuenctid Sparta Rotterdam a RKC Waalwijk tra'n ymaelodi ag Athrofa addysg yr Johan Cruyff Institute yn Amsterdam er mwyn ennill cymwyster academaidd.[1]

FK AS Trenčín

[golygu | golygu cod]

Trosglwyddwyd Lawrence i AS Trenčín yn Slofacia ar 13 Awst 2014 pan oedd yn 21 oed. Sgoriodd yn ei gêm gyntaf mewn gêm Cwpan Slofacia yn erbyn ŠK Strážske.[2] Chwareodd ei gêm gynghrair bedair diwrnod yn hwyrach wrth guro MFK Košice 4-2. Ar 1 Mai 2015 helpodd Lawrence ei dîm, AS Trenčín, i'w Cwpan Slofacia gyntaf wrth guro FK Senica yn y ffeinal.[3] Ym Mai 2015 daeth AS Trenčín yn bencampwyr y Fortuna Liga am y tro cyntaf.[4] Dyma oedd tymor llawn gyntaf Lawrence fel chwaraewr hŷn.[5]

Tra yn Trenčín dioddefodd Lawrence o anaf ond daeth nôl i'r tîm gyntaf a bu'n rhan o'r tîm a enillodd ei hail Cwpan Slofacia a'i hail pencampwriaeth Fortuna Lifa o'r bron.[6]

RSC Anderlecht

[golygu | golygu cod]

Ar 29 Awst 2018, ymunodd Lawrence ag Anderlecht.[7]

Safle Chwarae

[golygu | golygu cod]

Mae Lawrence yn chwarae ar ochr chwith y cae fel canol cefn neu fel chwaraewr canol cae amddiffynnol, neu arweinydd o'r cefn.

Gyrfa Ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Ar 5 Tachwedd 2018, galwyd Lawrence i chwarae i Gymru am y tro cyntaf.[8] Er iddo'i fagu yn Lloegr, galluogwyd iddo chware i Gymru gan fod mam-gu ganddo a aned yn Hwlffordd, Sir benfro.[9] Dechreuodd ei gêm gyntaf i'r tîm cenedlaethol yn eu gêm yn erbyn Albania ar 20 Tachwedd 2018.[10]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

AS Trenčín

Personol

[golygu | golygu cod]

Magwyd yn Henley-on-Thames yn Swydd Rydychen ond symudodd y teulu i'r Iseldiroedd yn 2008 ac yno dechreuodd chwarae i'r timau lleol.[11] Mae'n siarad Iseldireg ond nododd anhawster dysgu Slofaceg. Enillodd radd mewn 'Rheoli Chwaraeon' tra roedd yn yr Iseldiroedd.[12]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Jamie Lawrence, the only English footballer in Slovakia, warns England that their final Euro 2016 group game 'will not be easy'". Daily Mail.co.uk.
  2. "www.futbalnet.sk". Cyrchwyd 18 July 2015.
  3. "AS Trenčín win maiden Slovak Cup". Cyrchwyd 2 May 2015.
  4. "Trenčín seal historic Slovakian double". Cyrchwyd 21 May 2015.
  5. "Jamie Lawrence has eyes on Slovakian double after mastering his own destiny". Cyrchwyd 12 July 2015.
  6. "Trenčín ... take title". Cyrchwyd 17 May 2016.
  7. "WELKOM JAMES ALEXANDER LAWRENCE!". Anderlecht. 29 August 2018. Cyrchwyd 30 August 2018.
  8. http://www.s4c.cymru/sgorio/e_/2018/sgorio-rhyngwladol-cymru-v-denmarc/
  9. "Wales call up Anderlecht defender James Lawrence and Swansea's Daniel James". BBC Sport. 5 November 2018. Cyrchwyd 5 November 2018.
  10. "Mixed feelings for Wales debutant Lawrence". BBC Sport. 21 November 2018. Cyrchwyd 21 November 2018.
  11. https://www.walesonline.co.uk/sport/football/football-news/who-exactly-james-lawrence-wales-15373120
  12. https://www.theguardian.com/football/2015/apr/30/jamie-lawrence-slovakia-cup-league-double