Jane Arden | |
---|---|
Ganwyd | 29 Hydref 1927 Pont-y-pŵl |
Bu farw | 20 Rhagfyr 1982 Gogledd Swydd Efrog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, sgriptiwr, bardd, llenor, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm |
Priod | Philip Saville |
Plant | Sebastian Saville |
Actores a chynhyrchydd ffilm o Gymru oedd Jane Arden (29 Hydref 1927 – 20 Rhagfyr 1982) a sgwennodd nifer o ganeuon a cherddi yn ei thro.
Fe'i ganwyd a'i magwyd yn 47 Heol y Twmpath, Pont-y-pŵl, Gwent ac fe'i bedyddiwyd yn Norah Patricia Morris.[1]
Astudiodd yng Ngholeg Brenhinol y Celfyddydau Dramatig (Royal Academy of Dramatic Art), Llundain, ac yn y 1940au cychwynodd yrfa ym myd y teledu a'r sinema.
Ymddangosodd yn gyntaf mewn cynhyrchiad teledu o'r ddrama Romeo and Juliet yn niwedd y 1940au, ac yna serennodd mewn dwy ffilm a wnaed yng ngwledydd Prydain: Black Memory (1947) a gynhyrchwyd gan Oswald Mitchell (gyda Sid James) a A Gunman Has Escaped (1948) gan Richard M. Grey. Ceir copiau o'r ffilmiau hyn y Archifdy 'BFI National Archive', er bod rhannau o A Gunman Has Escaped wedi mynd ar goll.