Jane Dodds | |
---|---|
Ganwyd | 13 Medi 1963 Wrecsam |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, gweithiwr cymdeithasol |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd Cymru |
Plaid Wleidyddol | Democratiaid Rhyddfrydol Cymru |
Gwefan | https://www.janedodds.wales/ |
Gwleidydd o Gymraes yw Jane Dodds (ganwyd 13 Medi 1963) ac Aelod o'r Senedd dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ers Mai 2021. Mae hefyd yn Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ar ôl cael ei hethol i'r swydd yn 2017. Enillodd isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed ar 1 Awst 2019 Brycheiniog a Sir Faesyfed gan ddod yn Aelod Seneddol yr etholaeth. Collodd y sedd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019.
Cafodd Dodds ei geni a'i magu yn Wrecsam, yn ferch i Eirwyn a Marjorie Dykins[1]. Mae'n siarad Cymraeg. Astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd ac ers hynny mae wedi hyfforddi i fod yn weithiwr cymdeithasol, gan weithio i Fyddin yr Iachawdwriaeth mewn Gwasanaethau Amddiffyn Plant. Mae hefyd wedi gweithio mewn nifer o awdurdodau lleol, yn ogystal ag arwain Adran Plant Cyngor y Ffoaduriaid.
Etholwyd Dodds yn un o dri chynghorydd yn ward Gogledd Richmond, Cyngor Bwrdeistref Richmond upon Thames, Llundain yn 2006. Ar ôl colli ei sedd yn 2010, roedd yn ymgeisydd isetholiad ar gyfer yr un ward ym mis Mai 2012, lle dywedwyd ei bod ei hymgyrch wedi dioddef o herwydd taflenni ffug a gynhyrchwyd yn ei henw. [2]
Yn etholiadau cyffredinol San Steffan 2015 a 2017, safodd yn y cyn sedd Democratiaid Rhyddfrydol Trefaldwyn a ddalwyd gan y blaid (yn fwyaf diweddar) o 1983 i 2010 gan Alex Carlile ac yna Lembit Öpik. Fe wnaeth gystadlu yn etholaeth gyfatebol Maldwyn yn etholiad Cynulliad Cymru, 2016. Daeth Dodds a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ail ar bob ymgais, gyda'r ymgeisydd Ceidwadol yn cael ei ethol bob tro.
Yn 2019 cafodd ei dewis fel ymgeisydd San Steffan ar gyfer isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed [3] wedi i'r aelod ar y pryd, Christopher Davies cael ei adalw [4] ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o dwyllo wrth gyflwyno hawliad am dreuliau seneddol [5]. Penderfynodd Plaid Cymru [6] a'r Blaid Werdd i beidio â chodi ymgeisydd i sefyll yn yr isetholiad er mwyn gwella cyfle Dodds i ennill. Roedd Plaid Cymru, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Y gred oedd mai'r Rhyddfrydwyr Democrataidd oedd y blaid aros fwyaf tebygol o ennill yr etholiad. [7]
Cynhaliwyd yr isetholiad ar 1 Awst 2019 gyda Dodds yn llwyddo i gipio'r sedd. [8]
Senedd Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: ' |
Aelod o'r Senedd dros Canolbarth a Gorllewin Cymru 2021 – |
Olynydd: deiliad |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Christopher Davies |
Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed 2019 – 2019 |
Olynydd: Fay Jones |