Janey Godley | |
---|---|
Ganwyd | Jane Godley Currie 20 Ionawr 1961 Glasgow |
Bu farw | 2 Tachwedd 2024 Glasgow |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, hunangofiannydd, digrifwr stand-yp, blogiwr |
Priod | Sean Storrie |
Plant | Ashley Storrie |
Gwefan | https://janeygodley.com/ |
Digrifwr stand-yp, actores, awdur ac actifydd gwleidyddol o'r Alban oedd Janey Godley (ganwyd Jane Godley Currie; 20 Ionawr 1961 – 2 Tachwedd 2024). Dechreuodd ei gyrfa fel comediwr ym 1994, ac enillodd amryw o wobrau am ei chomedi yn y 2000au.
Cafodd Godley ei geni yn Campsie, Dwyrain Swydd Dunbarton, [1] [2] yr ieuengaf o bedwar o blant a aned i Annie a Jim Currie. Cafodd ei magu ar Kenmore Street yn Shettleston, Glasgow, a mynychodd Academi Eastbank. Gadawodd Godley yr ysgol yn 16 oed heb unrhyw gymwysterau. [3] Roedd ei rhieni yn alcoholigion [4] [5]
Priododd Godley Sean Storrie ym 1980.[6] Roedd e'n aelod o deulu gangster o Glasgow. [7] [8] [9]
Bu farw Godley o ganser yr ofari yn Hosbis Tywysog a Thywysoges Cymru yn Glasgow, ar 2 Tachwedd 2024, yn 63 oed. Talodd cyn Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon deyrnged iddi.[10]