Malasana II o'r ffrynt | |
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir yr enw Malasana ar gyfer gwahanol asanas cyrcydu mewn hatha yoga ac ioga modern fel ymarfer corff.[1][2]
Yn draddodiadol, ac yng nghyfrol clasurol BKS Iyengar , sef Light on Yoga, defnyddir y term Malasana, neu'r Goron Flodau, am asana lle mae'r iogi ar ei chwrcwd, gyda'r traed gyda'i gilydd a'r cefn yn fwa crwm. Ceir nifer o amrywiadau lleoli gyda'r dwylo mewn safleoedd amrywiol, gwahanol.[3] Pan fydd y dwylo wedi'u rhwymo (yn 'glwm') o amgylch y cefn gelwir y ystum hwn yn Kanchyasana ("Y Gwregys Aur").[2]
Yn y gorllewin, mae'r enw Malasana hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y "asana cwrcwd" arferol, sef yr Upaveshasana,[4] lle mae cledrau'r dwylo'n cael eu plygu gyda'i gilydd yn null gwedddi (Anjali Mudra) ar y fron, ac mae'r traed wedi'u gosod ar led.
Yn y Sritattvanidhi, rhoddir yr enw Malasana i Bhujapidasana, y "Gwasgiad Ysgwydd", lle mae'r cledrau'n cael eu gosod ar y llawr, y corff yn cydbwyso ar y dwylo, a'r coesau'n gorffwys ar yr ysgwyddau.[5]
Daw'r enw Malasana o'r Sansgrit "माला" mālā, coron o flodau (garlant), mwclis, neu rosari;[6] ac "आसन" āsana, "safle'r corff" neu "osgo". Yn ôl Iyengar, mae'r enw'n deillio o'r breichiau "sy'n hongian o'r gwddf fel blodau o goron". [7]
Defnyddir yr enw malasana am bedwar asanas gwahanol:[1][2][5]
Mae'r enw malasana yn cael ei ddefnyddio weithiau yn y Gorllewin ar gyfer y "cyrcydu arferol ," Upaveshasana,[4] lle mae cledrau'r dwylo yn cael eu plygu gyda'i gilydd yn Anjali Mudra (osgo gweddi) o flaen y fron, a'r traed wedi'u gosod ar wahân. Mae Yoga Journal yn nodi bod Malasana'n ymestyn y fferau, y werddyr a'r cefn, a thynhau'r bol, ond rhybuddir ynghylch defnyddio'r asana pan fo anafiadau i'r cefn neu'r pen-glin yn is.[8] Mae gan amrywiad o'r ystum hwn, Prapadasana, y sodlau gyda'i gilydd a'r iogi ar flaenau ei draed.[9]
Yn yr amrywiad cyntaf, a elwir hefyd yn Kanchyasana ("gosod gwregys aur"), [2] mae'r traed gyda'r breichiau wedi'u lapio o amgylch y cefn, tra bod yr ên yn cyffwrdd â'r llawr.[10]
Yn yr ail amrywiad hwn, mae'r dwylo'n lapio o amgylch y sodlau, ac mae'r ên yn cyffwrdd â'r llawr. [3] [11]
Mae'r Sritattvanidhi, llyfr o'r 19g ar nifer o bynciau gan gynnwys asanas,[14] yn rhoi darlun tra gwahanol i Malasana ym mhlât 44.[5] Yn y llun hwn, gosodir cledrau'r dwylo'n fflat ar y llawr, y breichiau wedi'u hymestyn yn unionsyth, a'r corff cyfan yn cydbwyso ar y dwylo, tra bod y coesau'n cael eu dal yn agos at y corff, gyda'r sodlau'n hongian i lawr o safle sy'n agos at yr ysgwyddau. Enw'r asana hwn yw Bhujapidasana, [15] y "Gwasgiad Ysgwydd."[12][16]