Jason Queally | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mai 1970 Great Haywood |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 88 cilogram |
Chwaraeon |
Seiclwr rasio o Loegr o Chorley, Swydd Gaerhirfryn ydy Jason Queally (ganwyd 11 Mai 1970)[1].
Tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerhirfryn, cynyrchiolodd brifysgolion Prydain a Chaerhirfryn ym mholo dŵr. Dechreuodd seiclo'n gystadleuol tra'n 25 oed. Yn 1996, bu bron iddo gael ei ladd yn trac seiclo Meadowbank yng Nghaeredin, pan aeth sblint pren o'r trac i mewn i'w frest ac i'w ysgyfaint trwy ei gesail.
Yn Hydref 2001 cystadlodd Queally yn y World Human Powered Speed Challenge [2] yn Battle Mountain, Nevada ar Blueyonder beic recumbent [3], a adeiladwyn yn bennaf o ffibr carbon gan Reynard Motorsport i ddyluniad Chris Field. Cymerodd y cerbyd ei enw o'r noddwyr, Blueyonder (rhan o Virgin Media erbyn hyn). Yn y gystadleuaeth hon, mae'r holl gerbydau yn teithio heb gael eu cynorthwyo, gan allt, gwynt na theithio tu ôl i gerbyd arall. Deliodd Queally gyflymder o 64.34 mph am 200 metr, dros y rhan o'r cwrs a gafodd ei amseru, gan osod record newydd Ewropeaidd. Deliodd yr enillydd, Sam Whittingham, gyflymder o 80.55 mph.