Jean Stafford | |
---|---|
![]() Robert Lowell, Jean Stafford, a Peter Taylor yn 1941. | |
Ganwyd | 1 Gorffennaf 1915 ![]() Covina ![]() |
Bu farw | 26 Mawrth 1979 ![]() White Plains ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur storiau byrion ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Mountain Lion, The Collected Stories of Jean Stafford ![]() |
Tad | John Richard Stafford ![]() |
Mam | Mary Ethel McKillop ![]() |
Priod | A. J. Liebling, Robert Lowell, Oliver Jensen ![]() |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Pulitzer am Ffuglen, Gwobr O. Henry ![]() |
Awdures Americanaidd oedd Jean Stafford (1 Gorffennaf 1915 - 26 Mawrth 1979) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am nofelau a'i storiau byrion.[1][2]
Fe'i ganed yn California a bu farw yn White Plains, Efrog Newydd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Colorado Boulder a Phrifysgol Colorado. Bu'n briod i A. J. Liebling ac yna i Robert Lowell. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Mountain Lion a The Collected Stories of Jean Stafford.[3][4][5]
Enillodd ei chyfrol The Collected Stories of Jean Stafford Wobr Pulitzer am Ffuglen yn 1970. [6]
Roedd ei nofel gyntaf, Boston Adventure, yn werthwr-gorau, gan ennill clod cenedlaethol.[7] Ysgrifennodd ddwy nofel arall yn ei gyrfa, ond ei phrif gyfrwng oedd y stori fer: cyhoeddwyd ei gweithiau yn The New Yorker ac amrywiol gylchgronau llenyddol.
Roedd bywyd personol Stafford yn llawn anhapusrwydd. Bu'n briod deirgwaith. Gadawodd ei phriodas gyntaf, i'r bardd ansefydlog Robert Lowell, greithiau emosiynol a chorfforol cyson. Cafodd ei hanafu'n ddifrifol mewn damwain car gyda Lowell wrth y llyw, trawma a ddisgrifiodd yn un o'i straeon mwyaf adnabyddus, The Interior Castle, ac roedd yr anffurfiad corfforol a ddioddefodd o ganlyniad i'r ddamwaith yn drobwynt yn ei bywyd. Daeth ail briodas - i un o olygyddion y cylchgrawn Life, Jensen, i ben mewn ysgariad hefyd. Mwynhaodd Stafford gyfnod byr o hapusrwydd domestig gyda'i thrydydd gŵr, A. J. Liebling, awdur blaenllaw ar gyfer The New Yorker. Ar ôl ei farwolaeth, rhoddodd y gorau i ysgrifennu ffuglen.
Am nifer o flynyddoedd roedd Stafford yn dioddef o alcoholiaeth, iselder, a chlefyd yr ysgyfaint. Erbyn iddi fod yn 65 oed, yn 1979, roedd hi bron wedi rhoi'r gorau i fwyta a bu farw o ataliad y galon yn White Plains, Efrog Newydd.[8]