Jeanne-Louise Calment | |
---|---|
Ganwyd | Jeanne Louise Calment 21 Chwefror 1875 Arles |
Bu farw | 4 Awst 1997 o heneidd-dra Arles |
Man preswyl | Arles |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | gwraig tŷ |
Swydd | list of European supercentenarians |
Tad | Nicolas Calment |
Mam | Marguerite Gilles |
Priod | Fernand Calment |
Plant | Yvonne Calment |
Chwaraeon |
Jeanne-Louise Calment (21 Chwefror 1875 - 4 Awst 1997) oedd y person hynaf yn y byd mae cofnodion dibynadwy amdani. Pan fu farw, roedd yn 122 mlwydd a 164 diwrnod oed.
Ganed hi yn Arles yn ne Ffrainc, a threuliodd y cyfan o'i hoes yno. Priododd Fernand Calment yn 1896, a chan ei fod ef yn fasnachwr cefnog, ni fu'n gweithio erioed. Daeth yn enwog yn ystod dathliadau canmlwyddiant arhosiad yr arlunydd Vincent van Gogh yn Arles. Hi oedd yr unig berson oedd yn ei gofio. Pan oedd yn 114 oed, bu'n actores mewn ffilm ar ei bywyd ei hun, yr actores hynaf erioed. Roedd yn dal i fynd o gwmpas ar feic pan oedd yn gant oed.