Jeremy Clarkson | |
---|---|
Ganwyd | Jeremy Charles Robert Clarkson 11 Ebrill 1960 Tickhill |
Man preswyl | Chipping Norton |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, llenor, cynhyrchydd ffilm, newyddiadurwr, ffermwr |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Top Gear, The Grand Tour, Clarkson's Farm |
Taldra | 1.96 metr |
Priod | Frances Cain, Alex Hall |
Gwefan | http://www.jeremyclarkson.co.uk/ |
Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu Seisnig yw Jeremy Charles Robert Clarkson (ganwyd 11 Ebrill 1960). Bu'n cyflwyno'r rhaglen geir Top Gear hyd at 2016 ac mae bellach yn arwain y gyfres The Grand Tour (gan Amazon Video) gyda Richard Hammond a James May. Mae hefyd yn sgwennu colofnau ar geir a gyrru yn y Sunday Times a'r Sun.
Hiwmor 'tafod yn ei foch', pendant sydd ganddo, hiwmor sydd wedi achosi sawl ffrae a dadl. Cafodd ei feirniadu droeon gan wleidyddion a beirniaid rhaglenni teledu am ddweud ei ddweud mor eithafol. Ond mae ganddo ei ddilynwyr hefyd - llawer ohonynt - a chredir mai ei bersonoliaeth ef yn bennaf a gododd y rhaglen Top Gear i fod yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus drwy'r byd moduro.
Ar 25 Mawrth 2015 cyhoeddodd perchennog y gyfres Top Gear na fyddent yn adnewyddu cytundeb Clarkson, wedi iddo ymosod yn eiriol ac yn gorfforol ar gynhyrchydd y rhaglen mewn gwesty tra roeddent yn ffilmio.[1][2] Yn dilyn hynny, yn haf 2016, ffurfiodd Clarkson, Hammond, Mai a'r cynhyrchydd Andy Wilman gwmni W. Chump & Sons er mwyn cynhyrchu'r gyfres The Grand Tour ar gyfer Amazon Video.