Jeremy Thorpe | |
---|---|
Ganwyd | John Jeremy Thorpe 29 Ebrill 1929 De Kensington |
Bu farw | 4 Rhagfyr 2014 Llundain Fwyaf |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | arweinydd y Blaid Ryddfrydol, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol, y Democratiaid Rhyddfrydol |
Tad | John Henry Thorpe |
Mam | Ursula Norton-Griffiths |
Priod | Caroline Allpass, Marion Stein |
Plant | Rupert Thorpe |
Perthnasau | David Lascelles, 8th Earl of Harewood, James Lascelles, Jeremy Lascelles |
Gwleidydd o Loegr oedd John Jeremy Thorpe (29 Ebrill 1929 – 4 Rhagfyr 2014), a fu'n arweinydd y Blaid Ryddfrydol rhwng 1967 ac 1976, ac AS dros Ogledd Dyfnaint rhwng 1958 a 1979.
Daeth ei yrfa gwleidyddol i ben i bob pwrpas pan honodd 'cyfaill' (sef Norman Scott) iddo gael perthynas hoyw gyda Thorpe ym mlynyddoedd cynnar y 1960au. Yr adeg honno, roedd gweithredoedd hoyw'n anghyfreithlon. Ymddiswyddodd Thorpe o'i swydd fel Arweinydd ei blaid, gan fynnu mai celwydd oedd yr honiadau; yna fe'i cyhuddwyd gan yr heddlu o gynllwynio i ladd Scott. Fe'i cfawyd yn ddieuog, ond effeithiodd hyn ar ei yrfa, ac ni chafodd ei ailethol yn yr etholiad cyffredinol. Prin y gwnaeth unrhyw ymddangosiad cyhoeddus wedi hynny.