Jeremy Zucker | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Mawrth 1996 ![]() Franklin Lakes ![]() |
Label recordio | Republic Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, cyfansoddwr caneuon ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd ![]() |
Gwefan | http://www.jeremyzuckermusic.com/ ![]() |
Canwr a chyfansoddwr caneuon Americanaidd yw Jeremy Scott Zucker, a adnabyddir hefyd fel Jeremy Zucker (ganwyd 3 Mawrth 1996).[1]
Yn wreiddiol o Franklin Lakes, New Jersey, cafodd Zucker ei fagu ar aelwyd gerddorol gyda'i rieni a dau frawd hŷn. Tra’n fyfyriwr yn Ysgol Uwchradd Ramapo, Ramapo, Rockland County, Efrog Newydd dechreuodd gyfansoddi cerddoriaeth yn ei ystafell wely ac yn ddiweddarach ymunodd â band o’r enw’r “Foreshadows”. Roedd y gân gyntaf a gyfansoddodd, mewn gwirionedd, yn ymwneud ag ofn ei frawd o uchder. Ar ôl graddio yn yr ysgol uwchradd, mynychodd Colorado College lle graddiodd yn 2018 gyda gradd mewn bioleg foleciwlaidd. Cyn cynhyrchu ei gerddoriaeth ei hun, ei swydd gyntaf oedd fel hyfforddwr eirafyrddio.[2]