Jessica Sula

Jessica Sula
Ganwyd3 Mai 1994 Edit this on Wikidata
Gorseinon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Gorseinon College
  • Ysgol Gyfun Penyrheol Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, actor ffilm Edit this on Wikidata
Taldra165 centimetr Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluyr Almaen Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes yw Jessica Sula (ganwyd 3 Mai 1994) sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae'r cymeriad Grace Blood yn nhrydedd cenhedlaeth y gyfres deledu Brydeinig Skins.[1]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Sula yng Nghymru. Mae ei mam o Drinidad ac o dras hanner Affro-Sbaenaidd a hanner Tsieineaidd tra bod ei thad o dras hanner Almaenaidd a hanner Estoniaidd.[2] Fe'i magwyd yng Ngorseinon, lle cwblhawyd ei lefel A yn Sbaeneg, Ffrangeg a Drama yng Ngholeg Gorseinon.[1]

Fe wnaeth Sula ei ymddangosiad teledu cyntaf yn 2011, wrth bortreadu Grace Blood ym mhumed a chweched gyfres ddrama E4 i'r arddegau Skins.[3] Yn ddiweddarach, cafodd ran yn nrama comedi Love and Marriage a ddarlledwyd ar ITV yn 2013.[4] Yn 2015, castiwyd Sula fel Maddie Graham, y brif ran yn nrama Recovery Road ar sianel Freeform (ABC Family gynt), wrth ochr ei chyd-actor o Skins, Sebastian de Souza.[5]

Mae ganddi ei rhan cyntaf ar y sgrîn fawr fel prif actores yn Honeytrap, stori merch 15 mlwydd oed sy'n trefnu llofruddiaeth bachgen sydd mewn cariad a hi.[6]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae Sula yn chwarae'r gitâr ac yn ymarfer Karate.[7]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2011–12 Skins Grace Blood Cyfres deledu E4 (14 pennod)

canwr ym mhennod All because of you (pennod #6.1)

2013 Love and Marriage Scarlett Quilter Cyfres ITV (penodau)
2014 Honeytrap Layla Ffilm nodwedd
2015 Eye Candy Morgan Pennod (1.4): "YOLO"
2016 Recovery Road Maddie Graham Prif ran[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 March, Polly (29 Ionawr 2011). "Swansea actress beats 8,000 to Skins role". BBC News. Cyrchwyd 12 Chwefror 2012.
  2. "Jessica Sula's ethnicity". Twitter status. 19 Chwefror 2012. Cyrchwyd 2 Medi 2012.
  3. "New Skins star Jessica Sula talks about landing her first TV role". Wales Online. 23 Ionawr 2011. Cyrchwyd 25 Ebrill 2014.
  4. "Love and Marriage". itv. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 7 October 2013.
  5. Andreeva, Nellie (10 Chwefror 2015). "ABC Family Series 'Recovery Road' Tweaks Cast; Jessica Sula To Play Lead". Deadline. Cyrchwyd 12 Chwefror 2015.
  6. "'Skins' star Jessica Sula to play lead in new film 'Honeytrap'". Digital Spy. 12 Awst 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 7 Hydref 2013.
  7. "Jessica Sula plays Grace". Channel 4 Press Info. Ionawr 2011. Cyrchwyd 6 Mai 2012.
  8. "Recovery Road: Production Begins on New ABC Family TV Series". TV Series Finale. April 24, 2015. Cyrchwyd April 30, 2015.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Nodyn:Rheol awdurdod