Jim Steinman | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Jim Steinman ![]() |
Ganwyd | James Richard Steinman ![]() 1 Tachwedd 1947 ![]() Claremont, Dinas Efrog Newydd ![]() |
Bu farw | 19 Ebrill 2021 ![]() o methiant yr arennau ![]() Danbury ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, canwr, cerddor, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, pianydd, cynhyrchydd, awdur geiriau ![]() |
Adnabyddus am | Making Love Out of Nothing at All ![]() |
Arddull | cerddoriaeth roc ![]() |
Cyfansoddwr, awdur geiriau caneuon, cynhyrchydd recordiau, a dramodydd o'r Unol Daleithiau oedd James Richard Steinman (1 Tachwedd 1947 – 19 Ebrill 2021).[1] Gweithiodd hefyd fel trefnydd, pianydd, a chanwr. Roedd ei waith yn cynnwys caneuon yn yr arddulliau roc cyfoes, dawns, pop, theatr gerdd a sgôr ffilm.
Roedd ei waith yn cynnwys albymau fel Bat Out of Hell gan Meat Loaf (sy'n un o'r albymau a werthodd mwyaf erioed) [2] a Bat Out of Hell II: Back into Hell, a chynhyrchu albymau ar gyfer Bonnie Tyler. Mae ei senglau siart mwyaf llwyddiannus yn cynnwys "Total Eclipse of the Heart" gan Tyler, "Making Love Out of Nothing at All " gan Air Supply , "I’d Do Anything for Love (But I Won't Do That) " gan Meat Loaf, " This Corrosion" a "More" gan Sisters of Mercy, "Read 'Em and Weep" gan Barry Manilow, fersiwn Celine Dion o "It's All Coming Back to Me Now" (a ryddhawyd yn wreiddiol gan brosiect Steinman, Pandora's Box). Ysgrifennodd Steinman geiriau y gân "No Matter What" gan Boyzone (y sengl cyntaf ac unig un y grŵp i fod yn boblogaidd a chyrraedd siartiau yr UDA). Rhyddhawyd unig albwm unigol Steinman Bad for Good ym 1981.
Roedd gwaith Jim Steinman hefyd yn ymestyn i theatr gerdd, lle dechreuodd ei yrfa. Cafodd Steinman gydnabyddiaeth am y llyfr, y gerddoriaeth, a'r geiriau ar gyfer Bat Out of Hell: The Musical, yn ogystal â geiriau ar gyfer Whistle Down the Wind, a cherddoriaeth i Tanz der Vampire.
Ganwyd Steinman yn Hewlett, Efrog Newydd.[3] Ei rieni oedd Louis ac Eleanor. Roedd o dras Iddewig.[4]
Graddiodd Steinman o Ysgol Uwchradd George W. Hewlett yn 1965.[5] Yn 1963, yn ystod ei ail flwyddyn yn Ysgol Uwchradd Hewlett, enillodd Steinman gystadleuaeth traethawd Newsday ar Hanes America am ei draethawd ar yr hyn oedd yn credu oedd y tri dyfais Americanaidd gorau.[6] Derbyniodd Steinman ei radd baglor o Goleg Amherst ym 1969.
Ar adeg ei farwolaeth, roedd Steinman yn byw yn Ridgefield, Connecticut.[7]
Cafodd Steinman strôc yn 2004 a chollodd y gallu i siarad dros dro.[8]
Bu farw Steinman o fethiant yr arennau mewn ysbyty yn Danbury, Connecticut, ar 19 Ebrill 2021 yn 73 mlwydd oed.[3][7] Ar ôl i Steinman farw, dywedodd yr awdur roc Paul Stenning iddo adael "etifeddiaeth aruthrol", gan gyfeirio ato fel "y cyfansoddwr mwyaf erioed o roc symffonig" a'i nodi fel dylanwad ar amrywiaeth o fandiau ar draws sawl genre.[9]
Clearly there is a mutual admiration society going on between the knight of the theatre and the half-Jewish New Yorker.