Coctel highball yw jin a thonig a wneir o jin a dŵr tonig gydag iâ. Yn aml caiff ei garnisio gyda sleisen o leim neu lemwn. Cafodd ei ddyfeisio yn nyddiau'r Ymerodraeth Brydeinig yn India, i gael pobl i amlyncu'r cwinîn sydd yn y dŵr tonig er mwyn amddiffyn yn erbyn malaria.[1]