Enghraifft o: | ffibr ![]() |
---|---|
Math | bast fibre, ffibr planhigyn ![]() |
Cynnyrch | Corchorus capsularis, Corchorus olitorius ![]() |
![]() |
Ffibr naturiol bras yw jiwt a darddir o ddwy rywogaeth o'r genws planhigyn Corchorus. Ffibr plisgyn ydy'r ffurf gyffredin—jiwt melyn—a wneir o feinwe fewnol rhisgl y malws melyn (Corchorus olitorius). Fodd bynnag, ystyrir jiwt gwyn, a wneir o falws gwyn (Corchorus capsularis), o ansawdd well. Defnyddir jiwt yn bennaf i wneud sachau, rhwymynnau, a defnyddiau tebyg i gasglu a phecynnu nwyddau amaethyddol a diwydiannol.[1]