Joanna Cherry

Joanna Cherry
Joanna Cherry


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020
Rhagflaenydd Alistair Darling
Y Blaid Lafur

Geni (1966-03-18) 18 Mawrth 1966 (58 oed)
Caeredin, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth De-orllewin Caeredin
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Caeredin
Galwedigaeth Gwleidydd a Bargyfreithwraig
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd a chenedlaetholwriag o'r Alban yw Joanna Cherry (ganwyd 18 Mawrth 1966) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Dde-orllewin Caeredin; mae'r etholaeth yn Ninas Caeredin. Mae Joanna'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin a hi yw Llefarydd y blaid dros Faterion Cartref a Chyfraith.

Rhwng 1990 a 1995 bu'n gyfreithwraig gyda chwmni o gyfreithwyr yng Nghaeredin: 'Brodies WS' tra roedd ar yr un pryd, ac yn rhan amser, yn diwtor yn y Brifysgol, gan arbenigo yng nghyfraith y teulu a chyfraith gyfansoddiadol. Fe'i gwnaed yn fargyfreithwraig yn 1995; yn yr Alban, gelwir y teitl hwn yn 'adfocad' ac arbenigodd mewn deddfau diwydiant a gwaith.

Bu'n gwnsel, neu'n gyngorydd, i Lywodraeth yr Alban rhwng 2003 a 2008 ac yn Advocate Depute rhwng 2008 a 2011.

Yn 2014, sefydlodd grŵp-ymgyrchu "Lawyers for Yes".[1] Mae Cherry yn arddel ei hun yn LHDT.[2]

Etholiad 2015

[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Joanna Cherry 22168 o bleidleisiau, sef 43% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 30.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 8135 pleidlais.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ""Lawyers for Yes" sign independence declaration". The Journal. Law Society of Scotland. 23 Mehefin 2014. Cyrchwyd 11 Mai 2015.
  2. Newstateman
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  4. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban