Johann Joachim Quantz

Johann Joachim Quantz
Portread o Johann Joachim Quantz (1735) gan Johann Friedrich Gerhard (m. 1754)
Ganwyd30 Ionawr 1697 Edit this on Wikidata
Scheden Edit this on Wikidata
Bu farw12 Gorffennaf 1773 Edit this on Wikidata
Potsdam Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen, Teyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, gwneuthurwr offerynnau cerdd, ffliwtydd, chwaraewr obo, trympedwr, athro cerdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullcerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadPierre-Gabriel Buffardin, Antonio Vivaldi Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.quantz.info Edit this on Wikidata
llofnod

Ffliwtydd a chyfansoddwr Almaenaidd o'r cyfnod Baróc oedd Johann Joachim Quantz (Almaeneg: [kvants]; 30 Ionawr 169712 Gorffennaf 1773).

Ysgrifennodd gannoedd o sonatâu a concerti ar gyfer y ffliwt yn bennaf. Mae'n adnabyddus fel awdur Versuch einer Anweisung die Flöte traversiere zu spielen ("Traethawd ar ddull o chwarae'r ffliwt draws"; Berlin, 1752). Mae ei lyfr yn ffynhonnell gyfeirio werthfawr ynghylch ymarfer perfformiad a thechneg ffliwt yn y 18g.

Ganwyd ym 1697 yn Oberscheden, yn agos i Göttingen, yn Etholaeth Hannover. Roedd ei dad yn gof. Ym 1718 daeth yn gerddor yn Dresden, yn llys Augustus II, Etholydd Sachsen a Brenin Gwlad Pwyl.

Ym 1728 penderfynodd Ffredrig Fawr, Tywysog Coronog Prwsia ar y pryd, astudio'r ffliwt yn groes i ddymuniadau ei dad gormesol, Friedrich Wilhelm II o Brwsia. Daeth Quantz yn athro iddo, a byddai'n teithio'n aml o Dresden i Berlin i roi gwersi iddo. Ar ôl i Ffredrig ddod yn frenin Prwsia ym 1740, cymerodd Quantz swydd athro ffliwt, gwneuthurwr ffliwt a chyfansoddwr yn ei lys yn Berlin. Arhosodd yno hyd ei farwolaeth ym 1773.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: